Cais gan y BBC am newid y Drwydded Weithredu

  • Dechrau: 14 Rhagfyr 2022
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 18 Ionawr 2023

Mae cynulleidfaoedd yn rhan annatod o gylch gwaith y BBC. Er bod y ffordd y mae'r BBC yn darparu ar eu cyfer yn newid, mae'n rhaid i'r BBC barhau i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa, ac ar yr un pryd esbonio'r newidiadau hynny'n llawn ac yn glir. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried a oes angen diweddaru Trwydded Weithredu'r BBC er mwyn i'r BBC fwrw ymlaen â rhai o'i chynlluniau.

Wrth i'r BBC drawsnewid ei gwasanaethau, mae'n rhaid iddi barhau i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa

Mae'r BBC yn wynebu marchnad a hinsawdd economaidd heriol. Mae pobl yn symud yn raddol tuag at wasanaethau ar-lein er mwyn gwylio a gwrando ar gynnwys, a cheir cystadleuaeth ddwys o hyd am amser cynulleidfaoedd, yn enwedig gan gwmnïau byd-eang a ariennir yn dda. Ochr yn ochr â hyn, mae'r BBC yn wynebu heriau ariannol o ganlyniad i bwysau ar ei chyllid o ffi'r drwydded yn ogystal â chostau cynhyrchu cynyddol a phwysau chwyddiant. Mae'r BBC wedi dweud y bydd hyn yn creu bwlch cyllido blynyddol o £400m erbyn 2027.

Mae hyn oll yn rhoi pwysau ar allu'r BBC i gyflawni ei Chenhadaeth a'i Dibenion Cyhoeddus, ac yn golygu bod yn rhaid i'r BBC newid. Ym mis Mai fe nododd ei strategaeth i fod yn sefydliad 'Digidol yn Gyntaf', ac yn ddiweddar mae wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau am sut y bydd hyn yn edrych yn ymarferol a sut y disgwylir i rai gwasanaethau gael eu heffeithio.

Rydym yn cydnabod yr angen i'r BBC drawsnewid a'i fod yn ofynnol felly iddi wneud dewisiadau a chyfaddawdau anodd, na fydd pob un ohonynt yn cael eu croesawu gan bob cynulleidfa.  Fodd bynnag, rydym hefyd wedi bod yn glir ein bod yn disgwyl i'r BBC barhau i ddarparu ar gyfer pob cynulleidfa. Wrth i gynlluniau Digidol yn Gyntaf y BBC ddatblygu a'i bod yn canolbwyntio mwy ar ei harlwy ar-lein, ni ddylai adael cynulleidfaoedd llinol ar eu hôl. Bydd hefyd angen iddi barhau i ddarparu ystod eang o gynnwys pwysig, gan gynnwys cynnwys lleol. Byddwn ni'n craffu ar gynlluniau'r BBC wrth iddynt ddatblygu, nid yn unig i sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn y Drwydded Weithredu, ond hefyd sut maen nhw'n debygol o effeithio ar gynulleidfaoedd ac ar allu'r BBC i gyflawni ei chylch gwaith.

Mae angen i'r BBC wneud llawer mwy i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ynglŷn â newidiadau i'w chynnwys a'i gwasanaethau

Mae cynulleidfaoedd yn talu am y BBC drwy ffi'r drwydded, ac mae eu hyder yng ngallu'r BBC i ymateb i'r heriau mae'n eu hwynebu'n hollbwysig. Mae angen felly i'r BBC fod yn fanwl ac yn glir wrth ddisgrifio ei strategaeth a'i chynlluniau, gan esbonio'n llawn beth mae'r rhain yn ei olygu yn ymarferol o ran darparu cynnwys a gwasanaethau i gynulleidfaoedd, a dangos sut y bydd yn parhau i gyflawni'r Genhadaeth a'r Dibenion Cyhoeddus yng ngoleuni newidiadau arfaethedig. Yn rhy aml, mae'r BBC yn rhyddhau gwybodaeth fesul tipyn yn hytrach na chyfathrebu'n agored ac yn rhagweithiol gyda chynulleidfaoedd a rhanddeiliaid, a gydag Ofcom fel ei rheoleiddiwr.

I alluogi trawsnewidiad y BBC, rydym bellach yn ystyried newidiadau pellach i'n Trwydded Weithredu arfaethedig

Er mwyn cefnogi'r BBC i drawsnewid, rydym yn cydnabod bod angen newid y ffordd yr ydym yn rheoleiddio'r BBC hefyd. Ym mis Mehefin 2022, bu i ni nodi cynigion ar gyfer Trwydded Weithredu newydd i'r BBC. Bu i ni gynnig ymgorffori gwasanaethau ar-lein y BBC yn llawn, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r BBC benderfynu sut orau i gyrraedd cynulleidfaoedd (gan gynnwys dileu rhai cwotâu), ac i'w gwneud yn ofynnol i'r BBC gyhoeddi mwy o wybodaeth am ei chynlluniau a'i darpariaeth yn ei Chynllun Blynyddol a'i Hadroddiad Blynyddol. Bu i ni gynnig cadw cwotâu mewn meysydd lle'r oeddem yn eu hystyried yn angenrheidiol, er enghraifft i ddiogelu naws unigryw a newyddion a materion cyfoes.

Wrth ymateb i'n hymgynghoriad, gofynnodd y BBC i ni wneud newidiadau pellach i'r Drwydded Weithredu er mwyn iddi roi newidiadau penodol i'w ddarpariaeth o ran cynnwys ar waith. Yn gyntaf, mae'r BBC wedi gofyn i Ofcom ostwng cwota newyddion a materion cyfoes BBC Radio 5 Live o 75% i 70%. Yn ail, mae wedi gofyn i ni ddileu'r cwota ar gyfer cerddoriaeth fyw ar BBC Radio 2 a rhoi gofyniad yn ei le i'r BBC nodi ei chynlluniau ar gyfer cerddoriaeth fyw yn ei Chynllun Blynyddol ac adrodd ar ei darpariaeth cerddoriaeth fyw yn ei Hadroddiad Blynyddol. Yn olaf, mae'r BBC wedi gofyn am ostyngiad yn ei gwota ar gyfer cynnwys newyddion ac nad yw'n newyddion ar y gwasanaethau optio allan.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Advisory Committee for Northern Ireland (ACNI) (PDF File, 152.9 KB) Sefydliad
Advisory Committee for Scotland (ACS) (PDF File, 169.0 KB) Sefydliad
Advisory Committee for Wales (ACW) (PDF File, 249.3 KB) Sefydliad
BBC (PDF File, 135.0 KB) Sefydliad
Directors UK (PDF File, 226.3 KB) Sefydliad