Ymgynghoriad: Digwyddiadau Rhestredig – Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023

  • Dechrau: 04 Gorffennaf 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 11 Gorffennaf 2023

Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 (“Cwpan y Byd Merched 2023”) yn fyw ac yn ecsgliwsif. Bydd y twrnamaint yn cael ei gynnal yn Awstralia a Seland Newydd o ddydd Iau 20 Gorffennaf i ddydd Sul 20 Awst 2023.

Yn 2022, cafodd Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd Merched FIFA ei ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig ‘Grŵp A’ gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon at ddibenion Deddf Darlledu 1996.

Fel ‘digwyddiad rhestredig’, mae angen caniatâd Ofcom ar gyfer dangos darllediadau teledu byw ac ecsgliwsif.

Rydym yn ymgynghori am gyfnod byrrach na’r arfer. Mae hyn oherwydd oedi cyn caffael yr hawliau gan FIFA. Yn benodol, er y cyhoeddwyd ar 14 Mehefin bod FIFA, ITV, y BBC a’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (“EBU”) wedi dod i gytundeb a oedd yn galluogi’r BBC ac ITV i ddarlledu Cwpan y Byd Merched 2023, roedd y BBC ac ITV yn bwriadu aros nes bod y cytundebau terfynol wedi’u cwblhau cyn gwneud eu ceisiadau i Ofcom.  Nid yw’r cytundebau yn derfynol eto, oherwydd yr oedi yn sgil natur amlbleidiol fwy cymhleth y trafodiad, ond mae’r BBC ac ITV bellach wedi gwneud eu ceisiadau i sicrhau bod gan Ofcom amser i gynnal yr ymgynghoriad hwn

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad. (ODT, 14.5 KB)


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.