Ymgynghoriad: Cwpan Rygbi'r Byd 2023 (Digwyddiadau Rhestredig)

  • Dechrau: 26 Gorffennaf 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 23 Awst 2023

Mae Ofcom wedi cael cais gan ITV am ganiatâd i ddarlledu Rowndiau Terfynol Twrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd 2023 (‘Cwpan Rygbi’r Byd 2023’) yn fyw ar eu sianeli hwy yn unig. Cynhelir y twrnamaint yn Ffrainc rhwng 8 Medi a 28 Hydref 2023.

Mae Rownd Derfynol Cwpan Rygbi'r Byd wedi’i dynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A. Mae pob gêm arall yn y twrnamaint wedi’u dynodi’n ddigwyddiadau rhestredig Grŵp B. O dan Ddeddf Darlledu 1996, mae'n rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau rhestredig Grŵp A a Grŵp B yn fyw ar sianeli penodol yn unig.

Mae Ofcom o'r farn ar hyn o bryd i roi caniatâd i ITV ddarlledu’r Gêm Derfynol a phob gêm arall yn y twrnamaint yn fyw ar eu sianeli hwy yn unig, yn amodol ar ystyried unrhyw bryderon a godir wrth ymateb i'r ymgynghoriad hwn, y mae'n rhaid eu cyflwyno erbyn 23 Awst 2023.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 49.5 KB) (yn Saesneg).


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.