Ymgynghoriad: talkSPORT – cynigion i leihau'r ddarpariaeth ar AM

  • Dechrau: 17 Chwefror 2023
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 17 Mawrth 2023

Mae talkSPORT yn gofyn am ganiatâd gan Ofcom i ddiffodd pedwar safle trawsyrrydd a fyddai'n lleihau'r ddarpariaeth o'i drwydded radio masnachol AM genedlaethol o 93% i 89.9% o boblogaeth oedolion y DU. Maent yn bwriadu diffodd pedwar o'r 22 o safleoedd trawsyrru sydd gan talkSPORT, gan leihau rhywdwaith trawsyryddion tonfedd ganolig cenedlaethol talkSPORT i 18 o safleoedd.

Rydym o'r farn i gymeradwyo'r cais hwn, ond cyn cyrraedd penderfyniad terfynol rydym yn rhoi cyfle i randdeiliaid wneud sylwadau ar y cais ac ar ein penderfyniad dros dro. Y rheswm dros hyn yw, os caniateir y newidiadau, y mae'n bosib y bydd rhai gwrandawyr yn colli'r gallu i dderbyn talkSPORT ar y band AM (tonfedd ganolig) ac y bydd gan orsafoedd radio masnachol eraill  ddiddordeb o bosib yn yr ymagwedd yr ydym o'r farm i'w mabwysiadu yn yr achos hwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i unrhyw sylwadau gan randdeiliaid cyn dod i benderfyniad terfynol.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 17.4 KB).


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Jenkins, R (PDF File, 415.7 KB) Ymateb
Mundell, O (PDF File, 814.7 KB) Ymateb
Name withheld 1 (PDF File, 407.3 KB) Ymateb
Name withheld 2 (PDF File, 433.9 KB) Ymateb
Name withheld 3 (PDF File, 426.7 KB) Ymateb