Ymgynghoriad: Hysbysiad o gynigion i wneud Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Ffioedd Trwydded) (Diwygio) 2024

  • Dechrau: 12 Chwefror 2024
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 12 Mawrth 2024

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio sylwadau ar reoliadau drafft, Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Ffioedd Trwydded) (Diwygio) 2024 (y "Rheoliadau Arfaethedig") a fyddai, pe baent yn cael eu gweithredu, yn diwygio Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Ffioedd Trwydded) 2020 ("Rheoliadau 2020").

Mae'r Rheoliadau Arfaethedig yn nodi'r newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud i daliadau trwyddedau (ffioedd) ar gyfer rhai dosbarthiadau o drwyddedau Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 ("Deddf TDd").

Rydym yn bwriadu gwneud rheoliadau newydd (Rheoliadau Arfaethedig) a fyddai'n diwygio Rheoliadau 2020 presennol mewn perthynas â chyflwyno tri chynnyrch trwydded newydd a'u ffioedd cysylltiedig. Rydym hefyd yn dileu un dosbarth o drwydded sydd bellach yn destun eithriad trwydded.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 97.8 KB) (Saesneg yn unig).


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.