Prawf lles y cyhoedd ar y sefyllfa bosibl o uno mewn perthynas â Telegraph Media Group
- Dechrau: 01 Rhagfyr 2023
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 13 Rhagfyr 2023
Mae Ofcom wedi darparu ei chyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mater iddi hi yw cyhoeddi ein cyngor a phenderfynu ar unrhyw gamau sydd i'w cymryd.
Ar 26 Ionawr 2024, roedd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyhoeddi Hysbysiad Ymyriad Er Budd y Cyhoedd (PIIN) yn ymwneud â’r sefyllfa bosibl o uno sy’n deillio o fwriad RB Investco Limited i brynu’r Telegraph Media Group Limited.
Ar yr un pryd, ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at Ofcom yn rhoi gwybod i ni ei bod yn darparu estyniad ar gyfer adrodd ar ei PIIN 30 Tachwedd 2023 mewn perthynas â RedBird IMI Media Joint Venture LLC yn caffael Telegraph Media Group Limited.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi gofyn i Ofcom adrodd yn ôl ar y ddau erbyn 9am ar 11 Mawrth 2024.
Caiff rhanddeiliaid sy’n dymuno darparu tystiolaeth ychwanegol sy’n berthnasol i PIIN 26 Ionawr wneud hynny erbyn 6 Chwefror 2024 fan bellaf. Nid oes angen ailgyflwyno tystiolaeth a ddarparwyd i ni eisoes pan wnaethom wahodd sylwadau ar 1 Rhagfyr 2023.
Fe wnaethom gyhoeddi’r canllawiau blaenorol ar PIIN 30 Tachwedd ar 1 Rhagfyr 2023. Dylid darllen y canllawiau hyn nawr fel pe baent hefyd yn cyfeirio at PIIN 26 Ionawr a’r dyddiadau cau diwygiedig.
Ar 30 Tachwedd 2023, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Hysbysiad Ymyriad er Lles y Cyhoedd o dan adran 42(2) o Ddeddf Menter 2002, mewn perthynas â'r sefyllfa bosibl o uno mewn cysylltiad â Telegraph Media Group.
Mae'n ofynnol yn awr i Ofcom adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 44A o'r Ddeddf. Mae'n rhaid i ni gwblhau ein hymchwiliad a'n hadroddiad erbyn hanner nos ar ddiwedd 26 Ionawr 2024.
Heddiw rydym wedi cyhoeddi:
- gwahoddiad i roi sylwadau ar y prawf budd y cyhoedd ynglŷn â'r sefyllfa bosibl o uno; a
- nodyn sy'n esbonio'r broses a'r amserlen ar gyfer paratoi ein hadroddiad.
Rydym yn gofyn am ymatebion erbyn 13 Rhagfyr 2023.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Dim ymatebion i’w dangos.