Ymgynghoriad: Digwyddiadau Rhestredig - Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi'r Gynghrair 2024-26
- Dechrau: 08 Ebrill 2024
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 06 Mai 2024
Mae Ofcom wedi cael cais gan y BBC am ganiatâd i ddarlledu darpariaeth fyw egsgliwsif o Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair yn 2024, 2025 a 2026 (“y Rowndiau Terfynol”). Mae Rownd Derfynol 2024 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8 Mehefin 2024.
Mae Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair wedi’i dynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A at ddibenion Deddf Darlledu 1996. O dan y Ddeddf, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn ecsgliwsif.
Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro ar gyfer Rowndiau Terfynol 2024, 2025 a 2026, yn amodol ar ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 98.2 KB).
Prif ddogfennau
Ymatebion
Dim ymatebion i’w dangos.