Ymgynghoriad: Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA 2024 ac 2028

  • Dechrau: 12 Ebrill 2024
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 10 Mai 2024

Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA 2024 a 2028 yn fyw ac yn egsgliwsif (“ y Twrnamaint”). Cynhelir y Twrnamaint yn yr Almaen rhwng dydd Gwener 14 Mehefin a dydd Sul 14 Gorffennaf 2024. Disgwylir i Dwrnamaint 2028 gael ei gynnal ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mehefin a Gorffennaf 2028, gyda’r union ddyddiadau eto i’w cadarnhau.

Mae Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA wedi’i ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A at ddibenion Deddf Darlledu 1996. O dan y Ddeddf, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn ecsgliwsif.

Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro, yn amodol ar ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.