12 Chwefror 2020

Bwrdd Ofcom yn apwyntio’r Fonesig Melanie Dawes yn Brif Weithredwr

Mae Bwrdd Ofcom wedi cyhoeddi heddiw bod y Fonesig Melanie Dawes yn cael ei phenodi'n Brif Weithredwr.

Mae'r Fonesig Melanie wedi bod yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth leol ers 2015. Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ddechrau mis Mawrth.

Mae'r Fonesig Melanie wedi dal nifer o swyddi uwch ar draws y gwasanaeth sifil, gan weithio mewn partneriaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Cychwynnodd ei gyrfa fel economegydd a threuliodd 15 mlynedd yn y Trysorlys, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Ewrop. Bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig yn Swyddfa'r Cabinet rhwng 2011 a 2015, a chyn hynny bu'n gwasanaethu ar Fwrdd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi fel Pennaeth y Dreth Fusnes.

Yn ogystal â'i rôl bresennol fel Ysgrifennydd Parhaol, mae'r Fonesig Melanie yn cadeirio Bwrdd Pobl y Gwasanaeth Sifil, gan arwain strategaethau gweithlu ar draws holl adrannau'r Llywodraeth. Hi hefyd yw Hyrwyddwr y Gwasanaeth Sifil dros amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae hi wedi cyflawni rolau anweithredol gan gynnwys gyda'r corff defnyddwyr Which? Mae hefyd yn Ymddiriedolwr Sefydliad Patchwork, sy'n hyrwyddo cyfranogiad pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol mewn democratiaeth.

Dywedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Ofcom: "Rwyf wrth fy modd fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo penodiad Ofcom o’r Fonesig Melanie Dawes yn Brif Weithredwr nesaf Ofcom. Mae datganiad Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu penodi Ofcom fel rheoleiddiwr ar gyfer niweidiau ar-lein yn bleidlais o hyder yn arbenigedd Ofcom. Rwy'n gwybod y bydd Melanie yn gwneud gwaith gwych o arwain y sefydliad a chynnal ei gryfderau.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn ogystal â'r tasgau parhaus o sicrhau gwell band eang a signal ffonau symudol a chefnogi darlledu yn y DU."

Dywedodd y Fonesig Melanie: "Mae Ofcom yn chwarae rôl hollbwysig o ran sicrhau bod pobl a busnesau ledled y DU yn cael y gorau o'u gwasanaethau cyfathrebu. Mae'n fraint fawr cael fy mhenodi'n Brif Weithredwr ar adeg o newid sylweddol yn y sectorau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio. "

Mae'r rhaglen i sefydlu niweidiau ar-lein fel rhan o gylch gwaith Ofcom yn debygol o gymryd amser i'w rhoi ar waith. O gofio bod rôl Ofcom wedi'i hymestyn, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud heddiw hefyd y bydd y Llywodraeth yn ystyried yn ofalus effeithiau llawn y newid posibl hwn, i Ofcom ac i hysbysu gwaith ehangach ar y dirwedd reoleiddiol.

Cadeirydd Ofcom

Yn sgil y ffaith y byddai'r rôl newydd yn golygu newid i Ofcom dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi nodi y byddai'r Llywodraeth yn hoffi gweld Cadeirydd yn ei le sy'n gallu goruchwylio'r gwaith o weithredu unrhyw newidiadau yn llawn.

Felly, mae'r Arglwydd Burns wedi cytuno i gamu i lawr i alluogi Cadeirydd newydd i fod yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn. Mae wedi cytuno i aros tan fod y Cadeirydd newydd yn ei le er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nicky Morgan: "Rwy'n llongyfarch y Fonesig Melanie Dawes ar ei phenodiad fel Prif Weithredwr Ofcom. Bydd profiad Melanie o arwain sefydliadau drwy newid yn hanfodol wrth i'r Llywodraeth heddiw gyhoeddi ei bod yn bwriadu penodi'r sefydliad yn rheoleiddiwr ar gyfer cyfreithiau niweidiau ar-lein newydd.

"Hoffwn hefyd ddiolch i'r Arglwydd Burns am ei waith fel Cadeirydd y sefydliad. Mae wedi darparu stiwardiaeth arbenigol a bydd yn gadael y rheoleiddiwr cyfryngau a thelathrebu mewn safle cryf."

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae Prif Weithredwr Ofcom yn benodiad cyhoeddus a wnaed gan Fwrdd Ofcom, sy'n cynnwys aelod panel annibynnol. Mae'n amodol ar gymeradwyaeth y Farwnes (Nicky) Morgan, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
  2. Mae Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr Grŵp Cystadleuaeth Ofcom ac aelod o'r Bwrdd, yn gwasanaethu fel Prif Weithredwr dros dro hyd nes y bydd Melanie yn cyrraedd.
  3. Mae delwedd o ansawdd uchel o'r Fonesig Melanie Dawes ar gael:

Fonesig Melanie Dawes

See also...