13 Mai 2020

Jonathan Oxley yn camu i lawr

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi y bydd Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr y Grŵp Cystadleuaeth ac Aelod o’r Bwrdd, wedi penderfynu camu i lawr.

Ymunodd Jonathan ag Ofcom ym mis Tachwedd 2014 ac mae wedi goruchwylio gwaith pwysig Ofcom o wella cystadleuaeth yn y sector cyfathrebiadau yn y DU, gan helpu i godi safonau, diogelu pobl a sicrhau gwerth da i gwsmeriaid.

Fe wnaeth Jonathan hefyd gytuno i gamu i’r adwy fel Prif Weithredwr y llynedd, nes bod Prif Weithredwr newydd yn cael ei benodi.

Dywedodd Jonathan: “Mae Ofcom yn sefydliad y byddaf bob amser yn ei barchu oherwydd ymroddiad ei bobl. Mae pawb yn canolbwyntio’n llwyr ar helpu i wella gwasanaethau cyfathrebu i bobl a busnesau ledled y DU.

“Roedd bob amser yn fwriad gennyf i chwilio am her newydd ar ôl treulio pum mlynedd yn Ofcom, ond pan ofynnodd Terry i mi aros i fod yn Brif Weithredwr dros dro, roedd yn fraint ymgymryd â’r rôl honno. Rydw i am gymryd hoe fach nawr, cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf. Rydw i’n gwybod y bydd Ofcom yn mynd o nerth i nerth dan arweiniad y Fonesig Melanie Dawes.”

Dywedodd yr Arglwydd Burns, Cadeirydd Ofcom: “Rydw i’n ddiolchgar i Jonathan am ei gyfraniad sylweddol i waith Ofcom. Ar fy nghais i, cytunodd i gamu i’r adwy i fod yn Brif Weithredwr dros dro y llynedd ac fe gyflawnodd y swydd yn wych, yn ogystal â bod yn llais pwysig ar Fwrdd Ofcom. Bydd yn chwith ei weld yn mynd ac fe hoffem ddiolch a dymuno’n dda iddo nawr ei fod yn gadael.

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae Jonathan wedi fy nghefnogi i ac wedi gwneud gwaith gwych fel Cyfarwyddwr Grŵp, aelod o’r Bwrdd, a Phrif Weithredwr dros dro yn ddiweddar. Byddaf i a fy nghydweithwyr ledled y sefydliad yn gweld ei golli.”

Bydd Jonathan yn camu i lawr ddiwedd mis Mehefin a bydd yn parhau i fynychu cyfarfodydd Bwrdd Ofcom tan y dyddiad hwnnw.

Bydd David Clarkson, Cyfarwyddwr y Grŵp Cystadleuaeth dros dro, yn aros yn y rôl honno.