17 Ebrill 2020

Penodi Kevin Bakhurst i Fwrdd Ofcom

Mae Ofcom wedi penodi Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Polisi Cyfryngau a Chynnwys Ofcom, i’r Bwrdd.

Ymunodd Kevin ag Ofcom yn 2016 ac mae wedi goruchwylio llawer o’r gwaith allweddol ar safonau cynnwys a pholisi, gan gynnwys rheoleiddio’r BBC a’n paratoadau i fod yn rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos yn y DU. Bydd yn ymuno fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd o’r mis hwn ymlaen.

Dywedodd yr Arglwydd (Terry) Burns, Cadeirydd Ofcom: “Mae gan Kevin brofiad golygyddol sylweddol, a bydd hynny o fudd mawr i Fwrdd Ofcom.”

Dywedodd Kevin Bakhurst: “Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â Bwrdd Ofcom a hynny ar adeg pan fo gwarchod cynulleidfaoedd cyn bwysiced ag erioed.”

Ymunodd Kevin ag Ofcom o RTÉ, y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yng Ngweriniaeth Iwerddon. Cyn hynny, bu’n gweithio am gyfnod hir i’r BBC.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Ymunodd Kevin ag Ofcom o RTÉ, y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yng Ngweriniaeth Iwerddon lle roedd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Newyddion a Materion Cyfoes. Ymunodd ag RTÉ yn 2012. Cafodd yrfa hir hefyd yn y BBC, gan ymuno fel ymchwilydd yn 1989 a chael ei ddyrchafu’n Ddirprwy Bennaeth Ystafell Newyddion y BBC a Rheolwr y BBC News Channel. Roedd Kevin yn gyfrifol am y newyddion ar deledu a radio’r BBC a’r wefan newyddion, gan helpu i greu ystafell newyddion aml-gyfrwng y BBC. Cyn hynny, roedd wedi cyflawni sawl swyddogaeth olygyddol allweddol, gan gynnwys Golygydd y Ten O’Clock News a Golygydd Cynorthwyol y Nine O’Clock News. Dechreuodd ei yrfa yn PwC.