24 Chwefror 2023

Ofcom yn penodi Alison Marsden yn Gyfarwyddwr Safonau Cynnwys, Trwyddedu a Gorfodi

Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw bod Alison Marsden wedi cael ei phenodi yn Gyfarwyddwr Safonau Cynnwys, Trwyddedu a Gorfodi.

Bydd Alison yn arwain y tîm sy’n gyfrifol am osod a gorfodi safonau cynnwys ar gyfer gwasanaethau teledu, radio ac ar-alw ac am raglen trwyddedu darlledu Ofcom,

Bydd hi hefyd yn eistedd ar Fwrdd Cynnwys Ofcom, sef un o bwyllgorau prif Fwrdd Ofcom, gyda chyfrifoldeb cynghori dros ystod eang o faterion sy’n ymwneud â chynnwys.

Ymunodd Alison ag Ofcom yn 2007 fel arbenigwr safonau darlledu. Ers 2016 mae hi wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr y tîm Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd, gan fod yn gyfrifol am osod a gorfodi Cod Darlledu Ofcom.

Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Alison yn gweithio mewn cynyrchiadau teledu, yn gyntaf yn y BBC yn cynhyrchu ac yn cyfarwyddo rhaglenni ffeithiol ac arbenigol, ac wedyn ar gyfer cwmnïau cynhyrchu annibynnol amrywiol.

Dywedodd Alison Marsden: “Rwyf wrth fy modd gyda’r rôl yma. Rwy’n edrych ymlaen at helpu Ofcom i barhau i gynnal lefelau diogelu uchel ar gyfer cynulleidfaoedd darlledu ac ar- alw, yn sicrhau bod y ffordd rydym yn rheoleiddio darlledwyr yn effeithiol ond sydd hefyd yn adlewyrchu’r heriau mae’r diwydiant yn eu hwynebu.”

Dywedodd Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Cynnwys Ofcom:

“Dwi wrth fy modd y bydd Alison Marsden yn ymgymryd â'r swydd holl bwysig hon yn Ofcom. Mae Ali yn dod â chyfoeth o brofiad a barn olygyddol i'r rôl, ynghyd ag ymrwymiad cryf i ddiogelu cynulleidfaoedd ac i'r sector darlledu ac ar-alw. "

Dywedodd Tim Suter, Cadeirydd Bwrdd Cynnwys Ofcom: “Bydd Alison yn siŵr o wneud gwaith gwych fel ein Cyfarwyddwr Safonau Cynnwys, Trwyddedu a Gorfodi newydd. Dwi wrth fy modd hefyd bod Bwrdd Ofcom wedi derbyn fy argymhelliad y dylid ei phenodi yn aelod o’r Bwrdd Cynnwys. Mae gen i feddwl mawr o’i barn a'i hagwedd gadarn yn olygyddol; a bydd hi’n dod â doethineb a chryfder i waith y bwrdd yn y maes hwn.”

Bydd Alison yn dechrau ar ei swydd newydd ar unwaith.

DIWEDD