7 Ionawr 2020

Cynllun Gwaith Arfaethedig Ofcom a Digwyddiadau i Randdeiliaid

Heddiw, cyhoeddodd Ofcom ei Gynllun Gwaith arfaethedig sy’n amlinellu ein baenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod pobl a busnesau yn y DU yn cael y gorau o’u gwasanaethau cyfathrebiadau. Mae ein cynllun arfaethedig yn amlygu ein holl brif feysydd gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21, yn seiliedig ar y blaenoriaethau strategol canlynol:

  • Gwasanaethau band eang a symudol gwell – lle bynnag fyddwch chi: byddwn yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn band eang cyflymach a darpariaeth symudol well ar hyd a lled y wlad.
  • Tegwch i gwsmeriaid: byddwn yn sicrhau bod cwsmeriaid band eang, ffôn a theledu yn cael eu trin yn deg, yn enwedig pobl agored i niwed.
  • Cefnogi darlledu yn y DU: byddwn yn cefnogi sectorau darlledu bywiog y DU, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, er mwyn darparu buddion parhaus i holl gynulleidfaoedd y DU.
  • Sicrhau bod cyfathrebiadau ar-lein yn gweithio i bobl ac i fusnesau: byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar bolisïau newydd a pholisïau sydd wrthi’n cael eu datblygu a fydd yn diogelu pobl rhag cynnwys niweidiol ar-lein, ac yn fwy cyffredinol, sicrhau bod gwasanaethau cyfathrebu ar-lein yn gweithio i ddefnyddwyr.
  • Galluogi rhwydweithiau cryf a diogel: parhau i gydweithio â’r diwydiant i sicrhau bod rhwydweithiau’r DU yn ddiogel, yn gryf ac yn cael eu diogelu rhag cyfnodau segur ac ymosodiadau seiber.

Digwyddiadau i randdeiliaid

Rydym hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus er mwyn cael adborth uniongyrchol ar ein cynllun arfaethedig. Mae’r digwyddiadau hyn, a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Llundain, Caeredin a Belfast, ar agor i bawb ac yn rhad ac am ddim.

Mae rhagor o fanylion ar gael am y digwyddiadau hyn.

See also...