8 Mawrth 2020

Ofcom yn cadarnhau cynlluniau ar gyfer arwerthiant sbectrwm yn gynnar y flwyddyn nesaf

  • Arwerthiant mis Ionawr ar gyfer tonnau awyr pwysig er mwyn rhoi hwb i gapasiti dyfeisiau symudol a gwella gwasanaethau 5G
  • Bydd y capasiti ar gyfer dyfeisiau symudol yn cynyddu bron i 20% - a fydd yn arwain at wasanaethau gwell a chyflymach.

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal arwerthiant o donnau awyr pwysig er mwyn helpu i wella band eang symudol a chefnogi cyflwyno 5G.

Ofcom sy'n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU. Mae’n adnodd y mae pen draw iddo ond sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys ffonau symudol.

Er mwyn helpu gwasanaethau symudol a rhoi gwell mynediad i bobl at 5G, byddwn yn rhyddhau rhagor o donnau awyr mewn arwerthiant. Bydd y bidio’n dechrau ym mis Ionawr 2021.

Bydd yr arwerthiant yn cynyddu cyfanswm y tonnau awyr - neu’r ‘sbectrwm’ - sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau symudol yn y DU bron i un rhan o bump (18%) – gan ddod â gwasanaethau gwell a chyflymach i ddefnyddwyr a busnesau.

Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: “Mae’r galw i allu mynd ar-lein yn symudol wedi cynyddu, ac mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw gwasanaethau symudol i bobl a busnesau. Bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn brydlon yn rhoi hwb mawr ei angen i gapasiti, gan helpu cwsmeriaid ffonau symudol i gael gwasanaeth gwell.”

Ystyried y coronafeirws

Mae gan Ofcom ddyletswydd i sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddyrannu’n effeithlon, er budd defnyddwyr. Rydym hefyd yn sicrhau bod cwmnïau’n gallu cystadlu'n deg a bod gan gwsmeriaid ddewis cryf o rwydweithiau symudol. Mae tonnau awyr addas yn brin ac arwerthiannau yw’r ffordd orau o gyflawni’r nodau hyn pan fo’r galw yn fwy na’r cyflenwad.

Roedd rhai gweithredwyr symudol yn dadlau dros ddefnyddio proses weinyddol i ddyrannu’r sbectrwm, yn lle arwerthiant agored, oherwydd y coronafeirws. Ar ôl ystyried yr awgrym hwn, nid ydym yn credu y byddai’n cyflawni ein dyletswydd i sicrhau’r bod y sbectrwm yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau posibl yn y DU. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod y sbectrwm ar gael i ddefnyddwyr ffonau symudol heb oedi diangen.

Heddiw, rydym wedi ysgrifennu at weithredwyr symudol (PDF, 189.0 KB) yn egluro ein rhesymau, ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd (PDF, 1.5 MB) ar y broses arwerthu er mwyn ei chynnal yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Y tonnau awyr sydd ar agor i fidio

Rydym hefyd wedi cadarnhau’r rheolau ar gyfer sut bydd yr arwerthiant yn gweithio, ar ôl ymgynghori ymhellach ar fodelu a materion technegol.

Yn yr arwerthiant, bydd cwmnïau yn cynnig prisiau am sbectrwm mewn dau fand amledd gwahanol.

  • Y band 700 MHz. Rydym yn rhyddhau 80 Mhz o sbectrwm yn y band 700Mhz, yn dilyn rhaglen pedair blynedd i glirio’r band hwn o’i ddefnydd presennol, sef teledu daearol digidol a microffonau di-wifr. Mae’r tonnau awyr hyn yn ddelfrydol ar gyfer darparu signal symudol o ansawdd da, dan do ac ar draws ardaloedd eang iawn – gan gynnwys yng nghefn gwlad. Bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn hefyd yn rhoi hwb i gapasiti rhwydweithiau symudol heddiw – gan gynnig gwasanaeth mwy dibynadwy i gwsmeriaid.
  • Y band 3.6-3.8 GHz. Rydym yn rhyddhau 120 MHz o sbectrwm yn y band 3.6-3.8 GHz. Mae’r tonnau awyr pwysig hyn yn rhan o'r prif fand ar gyfer 5G, ac yn gallu delio â llawer o gysylltiadau sy'n llyncu llawer o ddata mewn ardaloedd prysur iawn. Mae’r pedwar gweithredwr symudol mwyaf wedi lansio 5G yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bydd rhyddhau’r tonnau awyr hyn yn helpu i gynyddu capasiti a gwella ansawdd gwasanaethau data symudol.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Bydd cynigion yn cael eu derbyn ar gyfer y sbectrwm sydd ar gael yn y lotiau canlynol:
    • Chwe lot o 2x5 MHz (60 Mhz i gyd) yn y band 700 MHz gyda phris cadw o £100m y lot.
    • Pedwar lot o 5 MHz (20 Mhz i gyd) o sbectrwm 700 Mhz cysylltiad i lawr yn unig, gyda phris cadw o £1m y lot.
    • 24 lot o 5 MHz (120 Mhz i gyd) o sbectrwm 3.6-3.8 GHz, gyda phris cadw o £20m y lot.
    • Gan nad ydym yn bwriadu cynnwys rhwymedigaethau darpariaeth mwyach, ni fydd y ddau lot sbectrwm oedd â disgownt dim mwy na £300-400m yn berthnasol mwyach.
  2. Rydym yn defnyddio fformat a elwir yn ‘arwerthiant esgynnol aml-rownd’ (SMRA).
  3. Rydym wedi gosod cap o 37% ar ddaliadau sbectrwm cyffredinol, sy’n golygu bod y cwmnïau ffonau symudol presennol yn cael eu cyfyngu i'r symiau canlynol:
    • BT/EE - 120 MHz BT/EE;
    • H3G - 185 MHz;
    • Vodafone - 190 MHz;
    • Oherwydd ei ddaliadau sbectrwm presennol, ni fydd y cap yn cyfyngu ar O2.
  4. Roedd y band 700MHz yn arfer cael ei ddefnyddio ar gyfer teledu daearol digidol a meicroffonau di-wifr. Mae’r band 3.6-3.8 GHz yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cysylltiadau sefydlog a gwasanaethau lloeren.
  5. Ym mis Rhagfyr fe wnaethom ni gynnig cynnwys rhwymedigaethau darpariaeth yn rheolau’r arwerthiant. Byddai'r rhain wedi'i gwneud yn ofynnol i hyd at ddau gwmni symudol wella'r ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig, yn gyfnewid am gael gostyngiad ar sbectrwm drwy'r arwerthiant. Roedd y gweithredwyr rhwydweithiau symudol wedi datblygu’r cynllun Rhwydwaith Gwledig a Rennir i ymateb i gynigion Ofcom, ac felly nid yw’n briodol cynnwys dyletswyddau darpariaeth yn yr arwerthiant mwyach.