1 Mehefin 2020

Polly Weitzman, Cwnsler Cyffredinol Ofcom, yn gadael ei swydd

Cyhoeddodd Ofcom heddiw fod Polly Weitzman, Cwnsler Cyffredinol Ofcom, wedi penderfynu gadael ei swydd.

Mae Polly yn gadael Ofcom i ymuno â CityFibre.

Ers ymuno ag Ofcom yn 2004, mae Polly wedi arwain grŵp cyfreithiol Ofcom sy’n darparu cyngor cyfreithiol ar yr holl feysydd polisi yn Ofcom.

Fel Cwnsler Cyffredinol, mae Polly wedi chwarae rôl ganolog ym mholisi Ofcom, gan helpu i lwyio’n gwaith i godi safonau, gwarchod cwsmeriaid agored i niwed, a sicrhau bod pobl yn cael y gorau o’u gwasanaethau cyfathrebiadau.

Meddai Polly: “Bydd gen i hiraeth mawr am Ofcom. Bu’n fraint arwain ein tîm cyfreithiol o safon uchel am gymaint o flynyddoedd, yn ogystal â chael cyfle i weithio gyda chydweithwyr ehangach ar ein gwaith o hyrwyddo cystadleuaeth a gwarchod defnyddwyr a chynulleidfaoedd.

“Ro’n i’n teimlo ei bod hi’n bryd i fi gael her newydd, ac rwy’n gadael gan wybod bod Ofcom, dan arweiniad Y Fonesig Melanie Dawes, yn y safle gorau posib i fynd i’r afael â heriau cyfathrebu’r dyfodol.”

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Ar ran ei holl gydweithwyr, hoffwn ddiolch i Polly am ei chyfraniad aruthrol i Ofcom. Ar ôl 15 mlynedd gyda ni, mae’n ddealladwy bod Polly am droi ei llaw at heriau newydd. Ond mae’n gadael gyda’n gwerthfawrogiad cynhesaf am arwain tîm cyfreithiol Ofcom mor glodwiw ac am siapio ein gwaith ehangach.”

Er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro mewn buddiannau, bydd Polly yn gadael Ofcom yn syth bin ar gyfnod o absenoldeb garddio cyn ymuno â CityFibre ym mis Ionawr 2021.

Martin Ballantyne, Cyfarwyddwr Cyfreithiol Ofcom ar hyn o bryd, fydd yn camu i swydd y Cwnsler Cyffredinol am y tro.