14 Ionawr 2020

Ofcom yn rhoi dirwy o £175,000 i Swyddfa’r Post am godi gormod ar bobl anabl

Mae Ofcom heddiw wedi cadarnhau ein bod yn rhoi dirwy o £175,000 i Swyddfa'r Post am dorri un o’r rheolau ynghylch sut dylai darparwyr cyfathrebiadau drin eu cwsmeriaid.

Roedd y rheol hon yn rhoi’r hawl i bobl anabl i gael mynediad at wasanaethau galwadau llais i raddau cymaradwy â phobl nad ydynt yn anabl.

Rhwng Awst 2013 a Thachwedd 2018, fe wnaeth Swyddfa’r Post dorri’r rheol hon drwy beidio â defnyddio cynllun tariff arbennig ar gyfer galwadau gan gwsmeriaid oedd angen defnyddio gwasanaethau cyfnewid oherwydd eu hanableddau. Roedd hyn yn golygu eu bod wedi talu gormod.

Mae gwasanaethau cyfnewid yn helpu pobl gyda thrafferthion clyw a lleferydd i gyfathrebu dros y ffôn drwy gynnig gwasanaeth cyfnewid testun-i-lais a llais-i-destun. Mae cynllun prisiau arbennig yn digolledu’r galwyr hynny am yr amser ychwanegol y mae’n ei gymryd iddynt wneud galwadau ffôn drwy ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid.

Roedd nifer o ffactorau yn golygu bod hwn yn achos difrifol o dorri ein rheolau yn cynnwys yr effaith ar gwsmeriaid a allai fod yn fregus a'r cyfnod hirfaith o dorri’r rheolau.

Felly mae Ofcom wedi rhoi cosb o £175,000 I Swyddfa’r Post ac yn mynnu ei bod yn rhoi ad-daliad i’r cwsmeriaid mae hyn wedi effeithio arnynt. Mae’r gosb yn cynnwys gostyngiad o 30% i gydnabod bod Swyddfa’r Post wedi cyfaddef ei methiannau ac wedi cytuno i setlo’r achos. Rydyn ni wedi nodi’r camau y mae’n ofynnol i Swyddfa’r Post eu cyflawni i gydymffurfio â’r rheolau ac i sicrhau na fydd camweddau tebyg yn digwydd yn y dyfodol.

Bydd yr arian o'r ddirwy yma yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys Ei Mawrhydi. Bydd fersiwn llawn o'r penderfyniad yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

See also...