9 Mawrth 2020

Ofcom yn croesawu cytundeb y ‘rwydwaith wledig a rennir’ i wella darpariaeth symudol

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei fod wedi cyrraedd cytundeb gyda darparwyr symudol y DU i adeiladu rhwydwaith wledig a rennir i wella darpariaeth symudol.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom: “Rydym yn croesawu’r cytundeb yma, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gwsmeriaid symudol ar draws y DU. Rydym yn gwneud yr ymrwymiadau o ran darpariaeth yn gyfreithiol rwymol a’u cynnwys yn nhrwyddedau’r darparwyr. Byddwn hefyd yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd y cwmniau wrth iddynt wella darpariaeth i unigolion a busnesau.