8 Ionawr 2020

Buddsoddi mwy mewn band eang ffeibr

Bydd cartrefi a busnesau ar hyd a lled y wlad yn cael budd o fand eang ffeibr cyflymach a mwy dibynadwy yn sgil y cynigion o bwys a gyflwynir gan Ofcom heddiw.

Mae angen uwchraddio seilwaith y DU. Mae cysylltiadau band eang ffeibr llawn, sy’n defnyddio ceblau ffeibr-optig yr holl ffordd i gartrefi pobl, yn gallu gallu cynnig cyflymderau llawer cyflymach na’r hen linellau copr.

Maent hefyd bum gwaith yn fwy dibynadwy, ac yn llai tebygol o arafu pan fydd llawer o bobl yn eu defnyddio ar yr un pryd.

Felly heddiw, rydym yn cynnig rheoliadau newydd, hyblyg a fydd yn helpu i ddatblygu dyfodol ffeibr llawn ar gyfer y DU gyfan.

Bydd ein cynigion a fydd yn gweddnewid yr achos busnes dros fuddsoddi mewn ffeibr – ar gyfer trefi, dinasoedd a phentrefi fel ei gilydd. Y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu amrywio ein rheoliadau ar gyfer gwahanol rannau o’r wlad. Bydd hyn ar y cyd â chyllid gwerth £5bn gan Lywodraeth y DU mewn ardaloedd gwledig – yn helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Gwell band eang a gwasanaeth symudol - lle bynnag eich lleoliad

Ysgogi cystadleuaeth a buddsoddiad

Mae ein ffocws ar hyrwyddo cystadleuaeth rhwng rhwydweithiau band eang wedi helpu i gynyddu’r ddarpariaeth ffeibr llawn ar y gyfradd gyflymaf erioed.

Rydym nawr yn cynnig rhoi hwb enfawr i'r strategaeth gyda chynllun pedwar cam i gefnogi buddsoddiad cystadleuol mewn rhwydweithiau ffeibr.

  1. Gwella’r achos busnes dros fuddsoddi mewn ffeibr drwy pennu prisiau cyfanwerthol Openreach mewn modd sy’n annog cystadleuaeth gan rwydweithiau newydd, yn ogystal â buddsoddiad gan Openreach.
  2. Diogelu cwsmeriaid a hybu cystadleuaeth drwy sicrhau bod pobl yn dal yn gallu cael gafael ar fand eang fforddiadwy i atal Openreach rhag niweidio cystadleuaeth.
  3. Cyflymu ardaloedd gwledig drwy gefnogi buddsoddiad gan Openreach yn yr ardaloedd hyn.
  4. Cau’r rhwydwaith copr wrth i ffeibr llawn gael ei adeiladu fel na fydd gan Openreach y costau o redeg dau rwydwaith gyda’i gilydd.

Byddwn hefyd yn diogelu cwsmeriaid yn ystod y cyfnod pontio hwn, drwy drosglwyddo ein rheoliadau – gan gynnwys y rhai cysylltiedig â diogelu prisiau – o wasanaethau copr i wasanaethau ffeibr newydd.

Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i ddatblygu darpariaeth ffeibr llawn ar gyfer y wlad gyfan. Rydyn ni wrthi'n cael gwared o'r rhwystrau sy'n parhau i atal buddsoddi ac yn hybu cystadleuaeth er mwyn sichrau bod cwmnïau'n gallu adeiladu'r rhwydweithiau a fydd yn cyflymu'r DU yn y byd digidol.

Mae band eang ffeibr llawn yn llawer cyflymach a mwy dibynadwy. Mae'n hanfodol bod pobl a busnesau ymhob man -mewn ardaloedd gwledig, trefi bach neu ddinasoedd -yn gallu elwa ar y manteision hyn. Felly rydyn ni'n sicrhau bod gan gwmnïau'r cymhellion cywir i gyflwyno ffeibr llawn ym mhob rhan o'r DU.

Jonathan Oxley, Prif Weithedwr dros dro Ofcom

Y camau nesaf

Daw ymgynghoriad heddiw i ben ar 1 Ebrill 2020, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau ddechrau 2021 cyn i’r rheolau presennol ddod i ben ym mis Ebrill 2021.

See also...