4 Medi 2020

Datgelu’r cwynion diweddaraf am delegyfathrebiadau a theledu drwy dalu

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf am y cwynion rydym yn eu cael am brif gwmnïau’r DU ar gyfer ffonau yn y cartref, band eang, ffonau symudol a theledu drwy dalu.

Mae’r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i ni rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni -yn cynnwys data o’r pythefnos gyntaf o’r cyfyngiadau symud Covid-19. Mae’n cynnwys pob darparwr sydd â chyfran sefydlog o dros 1.5% o’r farchnad.

Band eang

Vodafone oedd y darparwr band eang y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdano, gyda 23 cwyn fesul 100,000 o gwsmeriaid ac EE gafodd y nifer lleiaf.

Tabl yn dangos niferoedd cwynion am fand eang y prif ddarparwyr gyda EE yn cael y lleiaf o gwynion 3 fesul 100,000 o gwsmeriaid a Vodafone gyda'r mwyaf gyda 23 o gwynion

Symudol

Vodafone, Three, BT Mobile a Virgin Mobile cafodd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt, gyda phum cwyn fesul 100,000 o gwsmeriaid ar gyfer pob un. Roedd prif destunau’r cwynion yn amrywio o broblemau wrth newid darparwr i sut roeddent yn delio â chwynion. Tesco Mobile gafodd y nifer lleiaf o gwynion ar gyfer ffonau symudol.

.

Tabl yn dangos niferoedd cwynion am ddarparwyr symudol gyda Tesco Mobile ar y brig gydag un cwyn fesul 100,000 o gwsmeriaid a Vodafone ar y gwaelod gyda 5 o gwynion fesul 100,000

Ffonau yn y cartref

Talk Talk cafodd y nifer mwyaf o gwynion amdano, gyda 17 o gwynion fesul 100,000 o gwsmeriaid. Y prif resymau dros yr anfodlonrwydd oedd problemau gyda chysylltu gwasanaethau, sut roeddent yn delio â chwynion a bilio, prisiau a ffioedd. Fel gyda band eang, EE gafodd y lleiaf o gwynion.

Tabl yn dangos nifer y cwynion llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid. EE wnaeth orau gyda 2 fesul 100,000 a TalkTalk oedd waethaf gyda 17 o gwynion fesul 100,000

Teledu trwy dalu

BT cafodd y nifer mwyaf o gwynion amdano, gyda naw cwyn fesul 100,000 o gwsmeriaid, a Sky gafodd y lleiaf o gwynion.

.

Tabl yn dangos niferoedd cwynion cwsmeriaid teledu trwy dalu -Sky oedd orau gyda 2 gwyn fesul 100,000 o gwsmeriaid a BT oedd waethaf gyda 9 o gwynion fesul 100,000

Mae gwybodaeth am gwynion yn helpu pobl i feddwl am ansawdd gwasanaeth pan fyddant yn chwilio am ddarparwr newydd, ac yn annog cwmnïau i wella eu perfformiad.

See also...