1 Tachwedd 2021

Penodi Gill Whitehead yn Brif Weithredwr y Fforwm Rheoleiddwyr Digidol

Heddiw, mae'r Fforwm Cydweithredu Rheoleiddio Digidol (DRCF) wedi cyhoeddi penodiad Gill Whitehead yn Brif Weithredwr iddo.

Ffurfiwyd DRCF ym mis Gorffennaf 2020 i harneisio arbenigedd cyfunol ei aelodau – yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ac Ofcom – ac i sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn cael eu rheoleiddio'n gryf.

Mae Gill Whitehead wedi cael ei phenodi'n Brif Weithredwr DRCF a bydd hi'n dechrau ar 15 Tachwedd. Bydd hi’n dod â'i mewnwelediad o yrfa sydd wedi rhychwantu'r sector darlledu a chyfryngau digidol, ar ôl gweithio i Google, Channel 4 a'r BBC yn flaenorol.

Mae hi'n Gymrawd y Sefydliad Cyfrifyddion Siartredig a dechreuodd ei gyrfa fel economegydd i Fanc Lloegr ac yna Deloitte.

Yn fwyaf diweddar, bu Gill yn aelod o Grŵp Rheoli Google yn y DU, gan arwain timau arbenigol ym meysydd gwyddor data, dadansoddeg, mesur a UX, ac yn flaenorol bu’n arwain swyddogaeth mewnwelediad defnyddwyr a marchnadoedd Google ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Cyn ymuno â Google yn 2016, fe dreuliodd hi wyth mlynedd fel aelod o Dîm Gweithredol Channel 4, lle creodd ac arweiniodd eu hadran strategaeth ddata a Thechnolegau a Mewnwelediad Cynulleidfaoedd.

Yn ddiweddar cwblhaodd Gill radd Meistr yn Athrofa Rhyngrwyd Prifysgol Rhydychen, ac mae hi'n dal rolau anweithredol gydag Informa PLC, Camelot UK, gweithredwr y Loteri Genedlaethol, a Chymdeithas Olympaidd Prydain.

Fel Prif Weithredwr DRCF, bydd Gill yn arwain arbenigedd cyfunol ei aelodau i sicrhau bod y dirwedd ddigidol yn cael ei rheoleiddio'n effeithiol, yn effeithlon ac yn gydlynus, a bydd hi'n goruchwylio'r gwaith o gyflwyno cynllun gweithredu sefydledig y fforwm. Bydd hi'n gyfrifol am yr Ysgrifenyddiaeth a ffurfiwyd gan bob un o'r rheoleiddwyr ac yn cydweithio'n agos â'u Prif Weithredwyr i ddatblygu dulliau cydgysylltiedig, a sicrhau bod polisi rheoleiddio'n cael ei ddatblygu mewn ffordd ymatebol a chyfannol.

Rwy'n falch iawn o gael Gill fel prif weithredwr y fforwm. Bydd ei harbenigedd a mewnwelediad yn werthfawr tu hwnt wrth i ni siapio'r dirwedd reoleiddio ar gyfer economi ddigidol y DU. Bydd hyn yn rôl ganolog wrth ddod â ni at ein gilydd i fynd i'r afael â'n heriau a rennir a sicrhau bywyd mwy diogel ar-lein i bawb.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom a Chadeirydd DRCF

Rydym ar adeg hollbwysig o ran sefydlu fframwaith rheoleiddio digidol sy'n sicrhau y gall dinasyddion y DU elwa o'r gorau sydd gan dechnoleg i'w gynnig ar yr un pryd â'u diogelu rhag y gwaethaf. Edrychaf ymlaen at adeiladu ymagwedd gydlynus a chydgysylltiedig at reoleiddio digidol sy'n dda i bobl wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ac ar gyfer busnesau a blaengaredd.

Gill Whitehead

Mae profiad trawiadol Gill yn y sector hwn yn ei gwneud hi'n ddelfrydol i ymgymryd â'r rôl heriol a phwysig hon. Edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â Gill ac aelodau eraill DRCF ar ymagwedd fwy cydgysylltiedig at reoleiddio digidol - gan sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer defnyddwyr a busnesau ar draws y DU i gyd.

Andrea Coscelli, Prif Weithredwr CMA

Mae'r rôl y mae Gill yn ymgymryd â hi'n hanfodol i sicrhau bod rheoleiddio digidol yn cael ei gydlynu ar gyfer y dyfodol. Bydd y fforwm yn elwa o'i phrofiad ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hi a'r holl reoleiddwyr sy'n rhan ohono i greu dull gweithredu clir.

Elizabeth Denham, Comisiynydd Gwybodaeth

Mae fy nghydweithwyr a minnau'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda Gill a'r cyfoeth o brofiad a ddaw yn ei sgil, wrth i ni ganolbwyntio ar sicrhau deilliannau gwell i ddefnyddwyr. Mae'r penodiad hwn yn garreg filltir bwysig i ni, gan ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ar gynllun gwaith uchelgeisiol i sicrhau diogelwch ar-lein, a gefnogir gan ddeddfwriaeth a rheoleiddio effeithiol. Mae DRCF yn cyflawni newid sylweddol yn y ffordd rydym yn ymgysylltu ac yn cydlynu â'n gilydd yn ein gwaith o reoleiddio'r dirwedd ddigidol.

Nikhil Rathi, Prif Weithredwr FCA

Beth yw DRCF?

Sefydlwyd y Fforwm Cydweithredu Rheoleiddio Digidol yn 2020 gan CMA, ICO ac Ofcom – gyda FCA yn ymuno fel aelod llawn ym mis Ebrill 2021. Fel fforwm gwirfoddol, mae'r DRCF yn gweithio i sicrhau cydgysylltu gwell rhwng rheoleiddwyr gwasanaethau ar-lein. Mae'n adeiladu ar y berthynas waith gref rhwng y sefydliadau hyn i ysgogi ymagwedd gydlynus at reoleiddio digidol – er lles defnyddwyr y rhyngrwyd a'r cwmnïau sy'n eu gwasanaethu.

Mae natur gwasanaethau digidol yn golygu y bydd gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio yn rhyng-gysylltu ac yn gorgyffwrdd.

Ar hyn o bryd mae gan y pedwar sefydliad gyfrifoldebau rheoleiddio gwasanaethau ar-lein gwahanol. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn rhychwantu: ymdrin â phryderon o ran cystadleuaeth (CMA, FCA ac Ofcom), diogelu defnyddwyr (CMA, FCA, Ofcom ac ICO), cynnal hawliau o ran gwybodaeth (ICO), lluosogrwydd newyddion a chyfryngau a rhai mathau o gynnwys ar-lein (Ofcom), a rheoleiddio gwasanaethau ariannol (FCA).

Mae cwmpas y rheoliadau sy'n berthnasol i wasanaethau ar-lein ar gynnydd. Er enghraifft: Bydd Ofcom yn goruchwylio ac yn gorfodi dyletswydd gofal diogelwch ar-lein newydd; bydd Uned Marchnadoedd Digidol yn cael ei sefydlu yn CMA i oruchwylio trefn newydd o blaid cystadleuaeth; a daeth Cod Dylunio Addas i Oedran newydd yr ICO i rym eleni.

Byddwn yn cyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau, gan gydweithio'n agosach ar faterion rheoleiddio digidol sydd o bwys i bob aelod, ac yn adrodd ar ganlyniadau bob blwyddyn.

Related content