Ofcom yn ymchwilio i ddirgelwch technegol yn Neuadd Frenhinol Albert
Mae tîm creu rhaglenni a digwyddiadau arbennig Ofcom yn rhai o'n harwyr di-glod. Mae gan y tîm ystod eang o gyfrifoldebau, ond rhan o'i rôl yw helpu i sicrhau bod rhai o ddigwyddiadau adloniant a chwaraeon mwyaf y wlad yn mynd yn ddidrafferth i'r trefnwyr a'u cynulleidfaoedd.
Mae'r tîm yn helpu i reoli'r tonnau radio a ddefnyddir gan gyfarpar fel meicroffonau di-wifr, monitorau yn y glust, camerâu, a dyfeisiau cyfathrebu di-wifr fel setiau symud a siarad. Mae hefyd yn helpu i sicrhau bod gan ddefnyddwyr y cyfarpar hwn y trwyddedau cywir.
O Glastonbury i'r Grand Prix, gellir dod o hyd i'n tîm yn y cefndir fel arfer. Ond hyd yn oed pan nad oes digwyddiad mawr yn cael ei gynnal, gelwir arnom yn aml i gynnal ymchwiliadau yn rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus y DU.
Ac wrth gwrs, er mai ychydig iawn o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r lleoliadau hyn wedi gorfod sicrhau o hyd bod eu cyfarpar a'u technoleg yn gweithio'n iawn ac yn ddiogel – yn aml wrth iddynt gynnal digwyddiadau rhithwir fel y dewis gorau nesaf i'r peth go iawn.
Roedd un achos diweddar yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, a oedd wedi bod yn profi anhawster gyda'i systemau cyfathrebu mewnol.
Llun gan Johen Redman ar Unsplash.
Mae gan y neuadd, a lleoliadau tebyg eraill, eu systemau eu hunain sy'n cynnwys setiau symud a siarad. Mae'r rhain fel arfer yn osodiad parhaol, i'w defnyddio gan staff sain, goleuo, diogelwch a desg flaen fel y gallant gyfathrebu'n hawdd â'i gilydd o wahanol leoliadau yn yr adeilad.
Roedd y lleoliad wedi bod yn cynnal digwyddiadau rhithwir, yn hytrach na chroesawu cynulleidfa. Ac yn ystod rhai o'r digwyddiadau hyn, bu methiannau ysbeidiol yn y system gyfathrebu.
Fel arfer, yn ystod digwyddiadau fel y rhain defnyddir gosodiad darlledu allanol. Dyma lle mae'r offer angenrheidiol yn cael ei gadw – yn aml mewn lori, er enghraifft - a lle gall y tîm ddefnyddio monitorau ac offer arall i gadw llygad ar sut mae pethau'n mynd a beth mae'r gwylwyr gartref yn ei weld.
Mae angen i bob darn o gyfarpar ddefnyddio ei amledd ei hun ar y sbectrwm radio, ac mae angen rheoli'r rhain yn ofalus i sicrhau nad ydynt yn ymyrryd â'i gilydd, neu ag unrhyw dechnoleg arall a ddefnyddir yn y lleoliad neu'n agos ati.
Yn gyffredinol, mae'r sbectrwm radio a ddefnyddir gan offer darlledu yn wahanol i'r un a ddefnyddir gan gyfarpar sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliad, er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ymyrraeth neu broblemau eraill. Fodd bynnag, gan mai dim ond dros dro y mae cyfarpar darlledu allanol yn ei le ar gyfer digwyddiad penodol, mae posibilrwydd weithiau y gall fod ymyrraeth i'r systemau presennol os nad ystyrir ei safle a'i agosrwydd at y cyfarpar presennol hwn.
Yn ystod ein hymweliad â'r neuadd, bu i ni ddefnyddio ein hoffer prawf i wirio system radio'r lleoliad am broblemau fel gosodiad anghywir ac agosrwydd antenâu at ei gilydd, sydd weithiau'n achosi problemau fel y rhai a brofwyd.
Ein cyfarpar profi ar waith mewn digwyddiad cerddoriaeth blaenorol.
Fodd bynnag, ar ein hymweliad roedd systemau'r lleoliad yn gweithio’n normal ac ni allai ein tîm efelychu'r problemau yr oedd staff y lleoliad wedi’u profi.
Ar y cyfan yn ystod yr ymweliad hwn, roedd yn heriol i ni nodi a mynd i'r afael â'r problemau penodol yr oedd Neuadd Frenhinol Albert wedi bod yn eu profi. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar y digwyddiad sy'n cael ei gynnal a faint o gyfarpar di-wifr sy'n cael ei ddefnyddio, mae nifer o ffactorau a all gael effaith.
Felly, argymhellodd ein tîm y dylai'r lleoliad, yn y dyfodol, fabwysiadu polisi di-wifr cyn digwyddiad lle mae defnyddwyr yn datgan eu defnydd o'r radio. Trwy wneud hyn, mae llai o siawns y bydd unrhyw broblemau tebyg yn y dyfodol.
Beth yw sbectrwm?
Allwch chi ddim gweld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sy'n cyfathrebu'n ddi-wifr – fel setiau teledu, ffobiau allwedd car, monitorau babanod, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â’r mast lleol fel y gall pobl wneud galwadau a chael mynediad i'r rhyngrwyd.
Pam mae Ofcom yn rheoli’r defnydd o sbectrwm?
Dim ond maint cyfyngedig o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli'n ofalus. Defnyddir bandiau sbectrwm penodol at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau ffôn symudol yn defnyddio gwahanol rannau o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i atal gwasanaethau rhag ymyrryd ac achosi aflonyddwch i bobl a busnesau.