10 Mehefin 2021

Sachin Jogia i ymuno ag Ofcom fel Prif Swyddog Technoleg

Mae Ofcom wedi penodi Sachin Jogia o Amazon fel ei Phrif Swyddog Technoleg newydd.

Bydd Sachin Jogia yn ymuno ag Ofcom, rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, fel Prif Swyddog Technoleg ym mis Hydref ar ôl naw mlynedd gydag Amazon, lle y mae'n Rheolwr Cyffredinol Alexa Smart Home International – gan oruchwylio datblygiad gwasanaethau'r cwmni a alluogir trwy lais - ar hyn o bryd.  Yn arweinydd cynhyrchion a thechnoleg profiadol iawn, mae Sachin hefyd wedi dal rolau uwch dechnoleg gydag AOL ac advertising.com.

Fel Prif Swyddog Technoleg, bydd Sachin yn arwain ar waith Ofcom o gefnogi arloesedd ar draws y sectorau a reoleiddiwn, gan gynnwys darlledu, telathrebu, gwasanaethau diwifr a'r post. Mae'n ymuno pan fydd Ofcom ar fin derbyn pwerau newydd i gadw pobl yn ddiogel ar-lein trwy'r Mesur Diogelwch Ar-lein, a bydd y Mesur Diogelwch Telathrebu hefyd yn estyn ei gyfrifoldebau diogelwch hefyd.

Meddai'r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Rwyf wrth fy modd â chroesawu Sachin i Ofcom. Bydd ei brofiad fel arweinydd technoleg, yn sgil datblygu cynhyrchion newydd ar gyfer un o'r prif lwyfannau byd-eang, yn werthfawr tu hwnt wrth i ni ymgymryd â'r her newydd o reoleiddio diogelwch ar-lein. Mae'r penodiad hwn yn dangos y gall cenhadaeth Ofcom ddenu'r doniau gorau oll, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â Sachin i adeiladu timau a sgiliau newydd wrth i ni sicrhau bywyd mwy diogel ar-lein i bawb."

Meddai Sachin Jogia: “Mae'n anrhydedd i mi ymuno ag Ofcom i arwain eu sefydliad Technoleg ar amser pan fo'n bwysicach nag erioed i sicrhau bod plant, pobl sy'n agored i niwed ac oedolion i gyd yn cael eu diogelu wrth iddynt ddefnyddio'r dechnoleg y maent yn ei chymryd yn ganiataol bob dydd. Mae'r mesur diogelwch ar-lein yn gam hanfodol a blaengar, a fydd yn helpu technoleg i ffynnu ar yr un pryd â rhoi'r mesurau diogelu iawn ar waith. Edrychaf ymlaen at greu partneriaethau â phob llwyfan dechnoleg i sicrhau mwy o atebolrwydd, ac ar yr un pryd galluogi arloesedd i ffynnu ar draws y sector ar gyfer dinasyddion y DU.”

Ac yntau'n angerddol dros gymhwyso mentrau tech4good, mae Sachin yn cadeirio Grŵp Ymgynghori Technoleg Sefydliad Prydeinig y Galon. Mae e'n weithredol hefyd mewn nifer o gynlluniau i helpu pobl o gefndiroedd difreintiedig - gan gynnwys rhaglen Peirianyddion y Dyfodol Amazon a TeachFirst, lle y mae'n mentora athrawon gwyddor cyfrifiadurol dan hyfforddiant.

Mae'n Ymddiriedolwr City Year UK, elusen sy'n helpu cau bylchau mewn cyrhaeddiad addysgol, ac yn wirfoddolwr i BeTheBusiness, lle y mae'n mentora uwch arweinwyr Mentrau Bach a Chanolig a leolir

Related content