15 Rhagfyr 2022

Cynnydd mewn argaeledd band eang gwell a chyflymach yng Nghymru

  • Mae band eang ffeibr llawn bellach ar gael i dros 600,000 o gartrefi yng Nghymru
  • Nifer yr aelwydydd heb fynediad at fand eang digonol yn gostwng o dan 1%
  • Darpariaeth 5G yn gwella'n gyson  

Erbyn hyn gall pedwar o bob deg cartref gael mynediad i'r cysylltiadau rhyngrwyd cyflymaf, mwyaf dibynadwy, wrth i dechnoleg ffeibr llawn gael ei chyflwyno ar garlam yng Nghymru ac mae'n parhau i gyfateb i argaeledd ar draws y DU.

Yn ôl adroddiad blynyddol Cysylltu'r Gwledydd Cymru (PDF, 1.5 MB) Ofcom, sy'n mesur argaeledd gwasanaethau band eang a symudol ar draws Cymru a'r DU, mae cysylltiadau ffeibr llawn bellach ar gael i o leiaf 600,000 o aelwydydd (40%) – cynnydd o 13 pwynt canrannol, neu 200,000 o gartrefi, o gymharu â'r llynedd.

Gall cysylltiadau ffeibr llawn – ynghyd â rhwydweithiau cebl wedi'u huwchraddio – ddarparu cyflymder lawrlwytho o un gigabit yr eiliad neu fwy (Gbit/e). At ei gilydd mae band eang cyfradd gigabit a ddarperir dros ystod o dechnolegau bellach ar gael i 52% o Gymru (bron i 800,000 o gartrefi).

Map â chodau lliw o bedair gwlad y DU gyda dadansoddiad o ddarpariaeth band eang i bedwar categori: methu cael band eang digonol, cyflym iawn, ffeibr llawn a chyfradd gigabit.

Cysylltu ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd

Erbyn hyn gall y mwyafrif helaeth (95%) o gartrefi yng Nghymru gael band eang cyflym iawn, sy'n darparu cyflymder lawrlwytho o 30 Mbit yr eiliad o leiaf; er hynny, nid yw bron i dri o bob deg cartref yng Nghymru (30%) sydd â mynediad iddo wedi manteisio arno. Mae'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffeibr llawn hefyd ar ei hôl hi o'i gymharu ag argaeledd, ar 28%.

Mae bron i 10,000 (0.7%) o gartrefi a busnesau nad oes ganddynt fynediad i fand eang 'digonol' – a ddiffinnir gan Lywodraeth y DU fel cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbit yr eiliad. Mae llawer o'r rhain yn y rhannau anoddaf eu cyrraedd o Gymru, lle mae'n fwy cymhleth a chostus i adeiladu rhwydweithiau. Mae'r ffigur yma wedi gostwng o 15,000 y llynedd.

At hynny, amcangyfrifwn na all tua 6,000 o safleoedd yng Nghymru gael mynediad at wasanaeth band eang sefydlog digonol na gwasanaeth 4G da dan do. Powys yw'r awdurdod lleol yng Nghymru o hyd sydd â'r nifer uchaf o safleoedd (2,157) heb fynediad at fand eang digonol o naill ai wasanaeth 4G, cysylltiad sefydlog neu wasanaeth di-wifr.

Gall band eang lloeren fod yn ddewis amgen i bobl sydd heb fynediad at wasanaethau band eang traddodiadol. Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth y DU dreial newydd i ddarparu rhyngrwyd cyflym i fwy na dwsin o leoliadau anodd iawn eu cyrraedd ar draws y DU, gan gynnwys pencadlys Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Thŷ Cornel, canolfan gweithgareddau awyr agored yng Nghwm Crafnant, y ddau wedi'u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae ffeibr llawn yn helpu i fodloni gofynion cynyddol defnyddwyr, gyda miloedd yn fwy yn elwa o gyflymder uwch a chysylltiadau mwy dibynadwy. Ond mae rhai cartrefi mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd yn dal i brofi anhawster wrth gael band eang digonol ac mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod y cymunedau hyn yn cael y cysylltiadau sydd eu hangen arnynt.

Mae Ofcom yn chwarae ei rhan yn y broses hon ac yn cefnogi Tasglu Chwalu Rhwystrau Llywodraeth Cymru, sydd wedi amlygu'r angen am hyrwyddo manteision cysylltedd digidol i ddefnyddwyr, gan gynnwys gweithgareddau gosod lleol. Cydnabyddwn y bydd gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau a'r darparwyr sydd ar gael yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffeibr cyflymach sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru

Cynnydd yn y ddarpariaeth 5G

Mae darpariaeth symudol yn sefydlog ar y cyfan - mae gan 62% o Gymru fynediad at ddarpariaeth ddaearyddol 4G da gan bob un o'r pedwar gweithredydd gyda'r ddarpariaeth yn amrywio'n sylweddol rhwng etholaethau Senedd Cymru mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru.

Llun o ffôn clyfar gyda thestun wedi'i arddangos ar y sgrin: "5G awyr agored (amrediad MNO: 10-46%"

Bydd Cymru'n gweld ymchwydd sylweddol mewn darpariaeth symudol erbyn 2025 o ganlyniad i raglen y Rhwydwaith Gwledig a Rennir y cytunwyd arni rhwng Gweithredwyr y Rhwydweithiau Symudol a Llywodraeth y DU.

Mae argaeledd gwasanaethau 5G yn parhau i dyfu ond ar ei hôl hi o gymharu â rhai o'r gwledydd eraill. Mae lefel y ddarpariaeth y tu allan i safleoedd gan weithredwyr unigol yng Nghymru bellach yn rhychwantu amrediad o 10-46%, yr ail isaf o bedair gwlad y DU.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae fersiwn rhyngweithiol o'r adroddiad, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn galluogi i bobl edrych ar gymariaethau rhwng darpariaeth yn eu hardal.
  2. Mae Ofcom  hefyd wedi cyhoeddi'r Cerdyn Sgorio Band Eang Rhyngwladol sy'n cymharu argaeledd band eang a'r nifer sy'n manteisio arno ar draws 17 o wahanol wledydd.
  3. Amcangyfrifwn fod 5G ar gael gan o leiaf un gweithredydd rhwydwaith symudol yng nghyffiniau 10-46% o safleoedd. Mae'r amrediad yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarperir i ni gan weithredwyr ac wedi'i chyfeirio gan ein gwaith mesur ein hunain.