22 Tachwedd 2022

Ffafrio ffrydio erbyn hyn…? Sut mae arferion gwylio Cwpan y Byd yn newid yn yr oes ddigidol

Wrth i Gwpan y Byd FIFA ddechrau'n swyddogol a'r gwledydd cartref, Cymru a Lloegr, anelu at ogoniant, mae ymchwil newydd gan Ofcom yn taflu goleuni ar y ffyrdd gwahanol gall pobl ddilyn y gystadleuaeth.

Mae pethau wedi dod yn bell ers Cwpan y Byd pêl-droed cyntaf ym 1930, ac ers y tro cyntaf i Gwpan y Byd gael ei darlledu ar y teledu ym 1954. Er i'r gystadleuaeth flaenorol ddenu cyfanswm cynulleidfa amcangyfrifedig o dros 3.5 biliwn o bobl, eleni gall cefnogwyr ddilyn y sylwebaeth a'r uchafbwyntiau'n fyw dros ystod o gyfryngau, o radio a theledu (gartref neu yn y dafarn) i ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol a ffrydio ar eu ffonau clyfar.

Er mwyn i ni gael gwybod sut mae cefnogwyr yn bwriadu gwylio Cwpan y Byd eleni, gwnaethon ni holi dros 2,000 o bobl am sut maen nhw'n bwriadu gwylio - neu yn wir a oedden nhw am ei gwylio.

Dywedodd bron i hanner (44%) o'r rhain wrthym y bydden nhw'n gwylio pob gêm neu rai ohonynt. Ond dywedodd cyfran ychydig yn uwch (46%) na fyddent yn dilyn y gystadleuaeth o gwbl. Dywedodd wyth y cant nad oedden nhw'n gwybod a fydden nhw'n gwylio neu wrando ai beidio.

Teledu yw'r llwyfan o ddewis o hyd

O'r rhai sy'n bwriadu gwylio neu wrando ar Gwpan y Byd, dywedodd mwy na thri chwarter (78%) eu bod nhw'n bwriadu dilyn gemau cyfan. A dywedodd mwy na dau draean ohonynt (69%) y bydden nhw'n gwneud hynny ar y teledu. Yn wir, teledu yw'r ddyfais o ddewis i bob grŵp o hyd, gyda bron i hanner yn dweud y byddant ond yn gwylio'r gystadleuaeth ar y teledu ac nid ar unrhyw ddyfais arall.

Fodd bynnag, roedd gwahaniaeth mewn grwpiau oedran o ran eistedd o flaen y teledu - dim ond hanner (51%) o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed a ddywedodd y byddent yn gwylio gemau cyfan yn fyw ar y teledu, o'i gymharu â thri chwarter (76%) y grŵp hŷn o ymatebwyr 55 oed neu'n hŷn.

Felly beth am ddulliau eraill o gadw i fyny â'r cyffro?

Dywedodd dwywaith gynifer o ymatebwyr ifainc (18 i 24 oed) ag ymatebwyr hŷn (55+ oed) y byddan nhw'n cadw i fyny trwy ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol - 28% o'i gymharu â 14%. Ac fe ddywedodd bron i dair gwaith cynifer o bobl ifanc y byddent yn gwylio gemau cyfan mewn mannau cyhoeddus fel tafarndai ac ar sgriniau mawrion - 38%, o'i gymharu â dim ond 13% o'r rhai 55+ oed a ddywedodd wrthym eu bod yn bwriadu gwneud hyn.

O ran gwrando ar y radio, dywedodd mwy o bobl rhwng 25 a 34 oed na'r rhai 55+ oed y bydden nhw'n tiwnio i mewn - 17% o'i gymharu ag 11% yn y drefn honno.

Pa ddyfeisiau fyddwch chi'n eu defnyddio?

O ran pa gyfryngau a dyfeisiau penodol y mae pobl yn bwriadu eu defnyddio, roedd rhaniad mwy clir rhwng yr oedrannau. Er enghraifft, dywedodd llai na hanner (49%) o'r rhai 18 i 24 oed y bydden nhw'n gwylio'r gystadleuaeth ar y teledu, o'i gymharu ag 89% o bobl dros 55 oed.

Ac i'r gwrthwyneb, dywedodd dros ddwywaith yn fwy o'r grŵp oedran iau hwn y bydden nhw'n defnyddio gliniadur neu lechen - 29% o'i gymharu â 14% o bobl dros 55 oed. Roedd gwahaniaeth hefyd rhwng y grwpiau oedran o ran rhai sy'n bwriadu parhau i ddefnyddio eu ffôn clyfar i wylio gemau, gyda mwy na thair gwaith yn fwy o bobl iau na phobl hŷn yn dweud y bydden nhw'n gwneud hyn - 34% o gymharu â 10%.

Cefnogwyr yn mynd ar-lein am y sgorau a mwy

Ac wrth gael eu holi am ffynonellau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol ynghylch cael gwybod y diweddaraf am y gystadleuaeth, unwaith eto roedd rhaniad clir rhwng yr oedrannau.

Er enghraifft, dywedodd tair gwaith yn fwy o bobl ifanc na phobl hŷn y bydden nhw'n defnyddio sianeli 'gwylio ar hyd' ar YouTube ac ar lwyfannau eraill - 12% o'i gymharu â 3%. A dywedodd dwywaith yn fwy o bobl ifanc y bydden nhw'n defnyddio apiau pwrpasol i gadw i fyny â'r gemau - 26% o'i gymharu â 13% o'r rhai 55+oed.

Ac roedd rhaniad oedran hefyd mewn cynlluniau i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ystod y gystadleuaeth, gyda mwy na dwywaith yn fwy o bobl ifanc na phobl hŷn yn dweud y byddan nhw'n defnyddio sianeli cymdeithasol ar yr un pryd y maen nhw'n gwylio gemau'n fyw ar y teledu - 42% o'i gymharu â 16%.

Er bod y dirwedd wylio - a gwrando – wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, dengys ein canfyddiadau fod llawer o gefnogwyr yn manteisio i'r eithaf ar y ffyrdd amrywiol y gallant gadw i fyny â chystadleuaeth chwaraeon fwyaf y byd. Os ydych chi'n bwriadu dilyn Cwpan y Byd – dymunwn bob hwyl i chi a'ch tîm.

Related content