8 Medi 2022

Datganiad Ofcom ar farwolaeth EM Y Frenhines Elizabeth II

Mae pawb yn Ofcom wedi’u tristáu’n fawr gan farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, ac estynnwn gydymdeimlad diffuant i’r Teulu Brenhinol. Bu iddi wasanaethu’r DU yn rhagorol yn ystod ei theyrnasiad hanesyddol, mae ein meddyliau gyda phobl ledled y wlad ar yr adeg hon o alar dwfn.