23 Medi 2022

Pam rydym yn estyn allan i bobl i fyw bywyd mwy diogel ar-lein

Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n hanfodol wrth helpu i adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein. Mae'n ein grymuso i wneud penderfyniadau digidol gwybodus ac, yn bwysig, cymryd camau i nodi cynnwys niweidiol a diogelu ein hunain ac eraill yn ei erbyn. Mae hefyd yn docyn i ni gymryd rhan yn llawn yn ein cymdeithas - ar adeg pan na fu bod ar-lein a chadw mewn cysylltiad â'r byd, gwasanaethau a'r bobl o'n cwmpas erioed yn bwysicach.

Dyma Fay Lant, un o arbenigwyr ymwybyddiaeth o'r cyfryngau Ofcom, yn sôn am fenter beilot newydd bwysig i helpu i wella diogelwch ar-lein ymhlith cymunedau lleol sydd fwyaf mewn perygl o niwed ar-lein…

Mae Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau'n rhywbeth rwyf wedi bod yn eirioli'n angerddol drosti am ran helaeth o fy ngyrfa, ar ôl gweithio yn yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol ac erbyn hyn fel aelod o dîm Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau Ofcom.

Mae'n ddyletswydd arbennig ar Ofcom i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried sut y gall oedolion a phlant elwa o bopeth y gall fod ar-lein ei gynnig, yn ddiogel. Rydym yn defnyddio'r mewnwelediadau hyn i hysbysu'r sector am beth sy'n gweithio wrth wella ymwybyddiaeth pobl o'r cyfryngau ar-lein. A dyna lle mae ein rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau'n gwneud cyfraniad.

Mae ein hymchwil wedi dangos yn gyson nad pawb sydd â'r sgiliau y mae eu hangen i gadw'n ddiogel ar-lein. Felly heddiw, rydym yn chwilio am sefydliadau ar draws y DU sy'n gweithio i helpu'r bobl y maent fwyaf mewn perygl o niwed ar-lein i wella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ar-lein.

Gall sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl hŷn a'r rhai sydd mewn perygl o allgáu digidol; pobl sydd â heriau neu anableddau iechyd meddwl; a phlant rhwng 10 ac 14 oed wneud cais am un o dri thendr i helpu i gefnogi eu gwaith hanfodol. Byddwn yn blaenoriaethu cefnogaeth i sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau dan anfantais ariannol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y tendrau ar ein Porth eDendro lawrlwytho canllaw i gofrestru. Y terfyn amser ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 25 Hydref 2022.

1. Diogelu oedolion hŷn a phobl sydd mewn perygl o allgáu digidol rhag sgamiau a thwyll

Mae pobl hŷn yn llai tebygol o lawer o fod â mynediad i'r rhyngrwyd gartref - does gan dros chwarter (26%) o bobl dros 75 oed ddim mynediad, o'i gymharu â chyfartaledd o 6% yn unig. O ganlyniad, pan fyddan nhw'n defnyddio'r rhyngrwyd, mae oedolion hŷn yn llai tebygol o fod â'r hyder a'r gallu i gadw'n ddiogel ar-lein. Gall hyn wneud y grŵp oedran hwn yn fwy agored i sgamiau ar-lein.

Dyma'r tro cyntaf i mi weld y peth yma am anfon eich £1.50 neu beth bynnag i ryddhau'r parsel. Ac roeddwn ar fin cael fy narbwyllo ganddo.

Dyn, 77 oed, Wedi Ymddeol, (Bywydau Cyfryngau Oedolion 2022, Ofcom)

Rwy'n dal i fod yn eithaf ofnus o dechnoleg. Yn fy swydd newydd maen nhw'n defnyddio Teams ac roedden nhw'n chwilio am fabwysiadwyr cynnar... ond doeddwn i ddim yn gyfforddus yn cael fy nysgu am y dechnoleg. Yn syml gan i mi feddwl: Gallaf ddal ymlaen am bedwar neu bum mis ac yna byddwn ni'n ôl i'r hen sialc a siarad fath o beth. Ond wrth gwrs, dydy e ddim wedi gweithio allan felly... Un ai bydd dim swydd gyda fi neu'n mae'n rhaid i mi gymryd rhan.

Dyn,  66 oed, Wedi lled-ymddeol, Pinner (Bywydau Cyfryngau Oedolion 2021)

2. Adeiladu strategaethau ymdopi ar gyfer pobl sydd â heriau ac/neu anableddau iechyd meddwl 

Gall pobl sy'n byw gyda heriau neu anableddau iechyd meddwl wynebu heriau ychwanegol i fyw bywyd mwy diogel ar-lein. Rydym yn gwybod bod pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl o bosib yn ei chael hi'n anoddach rhyngweithio â gwasanaethau ar-lein a'u bod efallai yn fwy agored i amrywiaeth o niwed ar-lein gan gynnwys mwy o amlygiad i gynnwys niweidiol.

Mae 'na lot o bobl anniddig arno [Facebook]... Doeddwn i ddim yn hoffi hynny. Roeddwn yn cael fy aflonyddu gan ddynion, neu bob nawr ac yn y man byddai cyn-gariad yn ymddangos a ro'n i jest yn meddwl, 'Be di'r pwynt? Dydw i ddim hyd yn oed yn ei hoffi'n fawr.' Yr unig reswm go iawn wnes i aros arno oedd siarad gyda fy nheulu ar Messenger.  

Menyw, 48 oed, Mam Aros gartref, Chelmsford (Bywydau Cyfryngau Oedolion 2022)

3. Paratoi plant a phobl ifanc 10-14 oed ar gyfer llwyddiant 

Mae bod ar-lein yn helpu plant i fod yn greadigol, dysgu sgiliau newydd a dod i wybod mwy am y byd ond mae arnynt angen help i ddatblygu'r wybodaeth hanfodol angenrheidiol i'w paratoi ar gyfer llwyddiant ar-lein.

Mae gan ddau draean (65%) o bobl ifanc 10 mlwydd oed eu cyfrif cyfryngau cymdeithasol eu hunain ac mae'r mwyafrif helaeth yn defnyddio llwyfannau rhannu fideos. Ond bu i nodi nad oedd tua chwarter o blant a honnai eu bod yn hyderus wrth nodi camwybodaeth yn gallu adnabod proffil cyfryngau cymdeithasol ffug mewn gwirionedd.

Mae'n fy ngwneud i'n flin, achos dwi'n dal i gael pethau dwi ddim yn eu hoffi... Dydw i ddim yn gwybod sut i'w newid. Mewn gwirionedd, does dim clem 'da fi [pam dwi'n gweld y pethau hyn] a dwi wir eisiau newid fy nhudalen 'For You' a jyst cael pethau arferol arni. Mae gan fy nhudalen bethau 'rhyfedd' iawn arni a dydw i ddim yn gwybod sut i'w newid.

Suzy, 10 oed (Bywydau Cyfryngau Plant 2022, Ofcom)

Roeddwn i'n cael lluniau o draethau a threfi bach yn yr Eidal. O'n i fel, 'Dwi wedi drysu, pam wyt ti'n dangos y pethau yma i mi?' Mae Instagram wedi gwneud peth lle mae fel 'yn seiliedig ar beth rwyt ti'n hoffi ar dy ffrwd Instagram.' Dwi'n meddwl yr oedd jyst yn cythruddo fi, 'mod i'n cael cynifer o luniau o draethau.

Josie, 17 oed (Bywydau Cyfryngau Plant 2022, Ofcom)

Related content