10 Chwefror 2023

Cydweithiwr Ofcom yn ennill gwobr Prentis y Flwyddyn

Wrth i Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol 2023 ddirwyn i ben, rydym yn cydnabod cyflawniadau un o brentisiaid Ofcom – a enillodd wobr yr wythnos hon.

Mae Fatima Diallo, a ymunodd ag Ofcom fel prentis yn 2021 wedi ennill 'Gwobr Prentis y Flwyddyn' Prifysgol Caint.

Mae Fatima, a ymunodd ag Ofcom yn 2021 fel rhan o'n carfan o brentisiaid polisi, yn ymgymryd â phrentisiaeth swyddog polisi gyda Phrifysgol Caint. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n treulio o leiaf 20% o'i hamser (un diwrnod yr wythnos fel arfer) yn astudio yn y brifysgol a gweddill yr amser yn gweithio fel cynorthwyydd polisi yn Ofcom.

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar brosiectau niwtraliaeth net yn ein grŵp rhwydweithiau a chyfathrebu, ac mae hi hefyd wedi gweithio yn ein timau mewnwelediad ymddygiad, strategaeth a pholisi, a pholisi cyhoeddus.

Yn y pen draw, mae'n gobeithio ennill Tystysgrif Addysg Uwch yn ogystal ag ardystiad Swyddog Polisi Lefel 4. Mae'r ail yn gymhwyster sy'n cyfateb i gwblhau'r flwyddyn gyntaf a hanner o radd.

Pam dewis prentisiaeth?

Dywed Fatima ei bod wedi dewis prentisiaeth am ei bod yn darparu profiad ar ben dysgu - ac mae hynny'n rhywbeth y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi'n fawr. Dechreuodd fagu diddordeb mewn ymuno ag Ofcom ar ôl lleoliad profiad gwaith a drefnwyd drwy Speakers for Schools. Cyn hynny, mae hi'n cyfaddef, ychydig o wybodaeth oedd ganddi am Ofcom a'n gwaith – ond drwy ei lleoliad gwaith mae hi wedi cael mewnwelediad i'n gwaith a'n pobl, felly gwnaeth hi fachu'r cyfle i ymuno ag Ofcom yn syth o'r ysgol fel prentis.

Ynghylch y wobr

Nod Gwobrau Prentis y Flwyddyn Prifysgol Caint yw taflu goleuni ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan brentisiaid, cyflogwyr a'r gymuned academaidd.

Eleni, roedd y categorïau ar gyfer Prentis y Flwyddyn, Cyflogwr y Flwyddyn, Academydd y Flwyddyn ac Ymgynghorydd Prentisiaethau y Flwyddyn. Yng nghanol cystadleuaeth frwd, roeddem yn falch iawn o glywed bod Fatima wedi ennill Prentis y Flwyddyn ar gyfer y llwybr Swyddog Polisi (y llwybr i fod yn swyddog polisi) – cyflawniad campus.

Meddai Fatima: “Rwy'n hynod ddiolchgar ac yn lwcus i ennill y wobr yma. Rwy'n sôn am lwc gan i mi wybod na allwn i fod wedi cyrraedd yma heb gymorth fy rheolwr perfformiad gyrfaol ac arweinwyr gyrfaoedd cynnar yn Ofcom, fy narlithwyr, prentisiaid presennol a chyn-brentisiaid, fy ymgynghorwyr prentisiaeth a chymorth fy nghydweithwyr yn Ofcom.

“Mae cydweithwyr bob amser yn parchu fy amser astudio a wastad yn fy ngwthio i herio fy hun ychydig yn galetach - diolch i chi eto, mae'n bleser i weithio gyda chi a mawr yw fy nyled am byth i bob un ohonoch.”

Meddai Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grwp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Dwi mor falch bod Fatima wedi cael ei dewis fel Prentis Swyddog Polisi'r Flwyddyn.

“Mae hi wedi bod yn gwneud gwaith penigamp yn Ofcom ar yr un pryd ag astudio ar gyfer ei chymwysterau, ac mae'n wych gweld ei hymdrechion yn cael eu cydnabod fel hyn.”

Related content