28 Medi 2023

Ofcom yn agor ymchwiliad i GB News o dan ein rheolau ar dramgwydd

Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i’r bennod o Dan Wootton Tonight ddydd Mawrth ar GB News o dan ein rheolau ar dramgwydd.

Rydym wedi derbyn tua 7,300 o gwynion am Dan Wootton Tonight a ddarlledwyd ar GB News ddydd Mawrth 26 Medi.

Rydym yn ymchwilio o dan Reol 2.3 o'r Cod Darlledu sy'n nodi, wrth gymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol, y mae’n rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod deunydd a allai achosi tramgwydd yn cael ei gyfiawnhau gan y cyd-destun.

"Dros y dyddiau diwethaf bu damcaniaethu a sylwebaeth ynghylch ein rôl fel y rheoleiddiwr darlledu annibynnol. Mae'r rhain yn faterion pwysig a dw i am fod yn glir am ein rheolau.

“Mae Senedd y DU yn gosod amcanion ynghylch sut y dylid rheoleiddio'r sector darlledu. Rydym yn gosod ac yn gorfodi rheolau i gyflawni'r amcanion hyn.

“Yn groes i rai honiadau, mae'r rheolau hyn yn aros heb eu newid.

“Maent wedi’u dylunio i amddiffyn cynulleidfaoedd rhag deunydd sarhaus a niweidiol, ac i gynnal uniondeb rhaglenni newyddion a materion cyfoes a ddarlledir, gan sicrhau bob amser bod rhyddid mynegiant yn flaenllaw ac yn rhan annatod o bob penderfyniad a wnawn. Mae hyn yn ganolog i’n democratiaeth ac mae cynulleidfaoedd yn ei werthfawrogi’n fawr.

“Mae'r penderfyniadau a wnawn, sydd bob amser yn seiliedig ar ffeithiau a thystiolaeth, yn hanfodol er mwyn i ni ddiogelu tirwedd fywiog ein cyfryngau. Rydym yn parhau i weithredu a gorfodi’r rheolau hyn heb ofn na ffafriaeth."

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom