23 Ionawr 2023

Diweddariad ar asesiad o gwynion am sylwadau Gary Neville yn ystod Rownd Derfynol Cwpan y Byd

Mae Ofcom wedi cwblhau ei asesiad o gwynion a gawsom am sylwadau Gary Neville yn ystod darllediadau ITV o Rownd Derfynol Cwpan y Byd, ar 18 Rhagfyr 2022.

Cwynodd 705 o wylwyr i Ofcom am y sylwadau, a oedd yn cymharu pryderon ynghylch hawliau dynol gweithwyr yng Nghwpan y Byd Qatar ag anghydfodau diwydiannol parhaus yn y DU.

Fe wnaethom ystyried y cwynion hyn yn erbyn ein rheolau darlledu. Yn ein barn ni, daeth y sylwadau byw, byr a heb eu sgriptio am gysylltiadau diwydiannol yn y DU yng nghanol trafodaeth ehangach am bolisïau a gweithredoedd Llywodraeth Qatar, a roddodd y pwys dyladwy i amrywiaeth o safbwyntiau. Felly, ni fyddwn yn mynd ar drywydd y cwynion hyn ymhellach.

Fodd bynnag, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i ITV yn eu hatgoffa o'u rhwymedigaethau didueddrwydd dyladwy. Mae ITV wedi ein sicrhau y bydd cyflwynwyr a gwesteion stiwdio yn cael eu hatgoffa o’r rheolau hyn.