28 Chwefror 2024

Dathlu mis hanes LHDT+ 2024

Mae mis hanes LHDT+ yn dod i ben, a'r thema eleni oedd meddygaeth, #UnderTheScope.

Mae thema 2024 yn dathlu cyfraniadau pobl LHDT+ at iechyd a meddygaeth, tra hefyd yn cydnabod rhai o'r anghydraddoldebau y mae'r gymuned wedi'u hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd.

Fel rheoleiddiwr darlledu, rydym yn ei nodi trwy daflu goleuni ar rai o'r prif fomentau teledu a ffrydio sydd wedi archwilio'r pynciau hyn ar y sgrin. Dyma rai yn unig o’r llu o sioeau nodedig sydd wedi rhoi sylw i faterion sy’n berthnasol i’r thema eleni, gydag eraill yn cael eu darlledu ar draws darlledwyr y DU a rhyngwladol – a hefyd ar wefannau ffrydio.

It’s A Sin

Drama Channel 4 a ysgrifennwyd gan Russell T Davies am bum ffrind yn tyfu i fyny yn ystod yr argyfwng AIDS/HIV ym Mhrydain yn yr 1980au. Mae'r rhaglen yn creu darlun o'r gwahaniaethu dinistriol a wynebwyd gan y gymuned ar y pryd, tra hefyd yn dathlu diwylliant hoyw.

Sex Education

Cyfres Netflix am fachgen yn ei arddegau y mae ei fam yn therapydd rhyw, sy'n sefydlu clinig cyngor rhyw yn ei ysgol uwchradd. Mae’r sioe wedi’i chanmol am ei chynwysoldeb wrth ddangos perthnasoedd, gan ei bod yn cynnwys straeon am berthnasoedd cwiâr a hunaniaeth rhywedd. Mae’r gyfres hefyd wedi’i hamlygu am y ffordd y mae’n portreadu materion iechyd rhywiol mewn ffordd ddi-flewyn-ar-dafod ac anfeirniadol.

Queer as Folk

Cyfres Russell T Davies am dri dyn hoyw oedd yn byw ym Manceinion yn y 1990au. Cynhyrchwyd fersiwn UDA a leolwyd yn Pittsburgh yn y 2000au, gan archwilio themâu fel AIDS, hawliau rhieni hoyw a phriodas hoyw. Dathlodd y sioe wreiddiol ei phen-blwydd yn 25 oed yn ddiweddar. Mae wedi cael ei ganmol fel achubiaeth i’r gymuned LHDT+ am fynd y tu hwnt i ddarluniau ystrydebol o fod yn hoyw yn y 90au.

Feel Good

Cyfres Channel 4 yn serennu'r digrifwr Mae Martin, wrth iddynt gychwyn ar berthynas newydd tra'n brwydro yn erbyn caethineb i gyffuriau. Mae'r comedi ramant chwe rhan lled-hunangofiannol yn archwilio themâu fel cariad newydd, teuluoedd gwenwynig, a dibyniaeth ar gyffuriau.

Tick, Tick… Boom!

Ffilm Netflix yn seiliedig ar y sioe gerdd a grëwyd gan y dramodydd Jonathan Larson. Tick, Tick… Boom! yw sioe gerdd roc gyfoes sy’n dilyn adfyd artistiaid yn byw yn Efrog Newydd ac yn taflu goleuni ar straeon cwiâr yn ystod yr epidemig AIDS.

Seahorse: The Dad Who Gave Birth

Ffilm ddogfen yn archwilio taith hudolus Freddy, dyn hoyw trawsryweddol. Rydyn ni'n dilyn ei brofiad wrth iddo gychwyn ar y llwybr unigryw o ddechrau teulu. Mae'r ffilm yn ymchwilio i'r heriau ingol y mae'n dod ar eu traws o safbwyntiau corfforol, meddygol a chymdeithasol.

Paid â Dweud Hoyw

Mae’r rhaglen ddogfen hon yn dilyn Stifyn Parri wrth iddo olrhain hanes Cymal 28, y gwnaeth frwydro yn ei erbyn yn bersonol. Roedd y cymal hwn o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 wedi gwahardd awdurdodau lleol ac ysgolion rhag 'hyrwyddo cyfunrywioldeb' gan atal cenedlaethau o ddisgyblion LHDTC+ rhag gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli mewn cynnwys yn ogystal ag atal dysgu am berthnasoedd o'r un rhyw. Mae'r rhaglen hon yn Gymraeg ac ar gael ar BBC iPlayer.

Fellow Travellers

Cyfres untro sy'n canolbwyntio ar y rhamant degawdau o hyd rhwng dau ddyn wnaeth gyfarfod gyntaf yn ystod anterth McCarthyaeth yn y 1950au. Wedi'i lleoli yn Washington DC, mae'r gyfres yn archwilio'r berthynas rhwng dau aelod staff gwleidyddol sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu dal.