Llai na hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn cael rheolaethau cynnwys yn effeithiol
Dywedodd bron i hanner y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiodd reolaethau cynnwys na wnaeth eu profiad newid, tra y dywedodd rhai ei fod wedi gwaethygu (2%). Dim ond 38% a ddywedodd fod defnyddio rheolaethau cynnwys wedi gwella'u profiad ar-lein.
Mae galluogi pobl i fynnu rheolaeth ar eu profiadau ar-lein yn rhan annatod o ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a diogelwch ar-lein. Mae gan gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos reolaethau cynnwys sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis y cynnwys a welant. Mae ymchwil newydd gan dimau Mewnwelediad Ymddygiadol ac Ymchwil a Gwybodaeth Ofcom, fel rhan o'n gwaith ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, yn taflu goleuni ar brofiadau pobl.
Dywedodd tua chwarter y defnyddwyr (26%) eu bod wedi defnyddio rheolaethau cynnwys o leiaf unwaith. O'r rhain, y prif resymau oedd:
- alinio cynnwys â diddordebau a dewisiadau (36%)
- amddiffyn eu hunain rhag gweld cynnwys cynhyrfus neu niweidiol (35%)
- eu bod wedi gweld rhywbeth niweidiol neu ofidus (21%)
Serch hynny, ar ôl defnyddio rheolaethau cynnwys, dim ond 38% a ddywedodd fod eu profiad wedi gwella, tra y dywedodd 44% fod eu profiad heb ei newid, dywedodd 2% ei fod wedi gwaethygu a dywedodd 16% nad oeddent yn gwybod.
Beth yw rheolaethau cynnwys?
Yn yr ymchwil hon, fe wnaethom ystyried rheolaethau cynnwys i fod yn osodiadau wedi'u personoli a ddarperir gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a rhannu fideos.
Mae'r rheolaethau hyn yn galluogi defnyddwyr i reoli'r cynnwys a welant ar-lein ac osgoi dod ar draws cynnwys niweidiol neu gynhyrfus.
Rhesymau dros beidio â defnyddio rheolaethau cynnwys
Dywedodd tuag un o bob pump defnyddiwr (22%) nad oeddent yn ymwybodol o reolaethau cynnwys cyn cymryd rhan yn yr arolwg. Dywedodd bron i hanner y defnyddwyr (47%) eu bod yn ymwybodol o reolaethau cynnwys ond nad ydynt erioed wedi'u defnyddio.
Y prif resymau a adroddwyd gan ddefnyddwyr dros beidio â defnyddio rheolaethau cynnwys oedd:
- eu bod yn fodlon ar y cynnwys y maent yn ei weld ar y llwyfannau (68%)
- meddwl nad oedd arnynt eu hangen (66%)
- diffyg ffydd yn y ffordd y mae'r llwyfannau'n categoreiddio'r cynnwys (26%)
- diffyg amser (26%)
- nad oeddent am golli allan ar gynnwys diddorol (23%)
Roedd rhesymau eraill yn cynnwys bod y rheolaethau'n rhy gymhleth i’w deall (14%), gormod o destun i’w ddarllen (14%) a heb fedru dod o hyd iddynt (10%).
Cais am dystiolaeth ar ddiogelwch ar-lein sydd ar y gweill
Rydym yn bwriadu ehangu ein sylfaen dystiolaeth ar reolaethau cynnwys fel rhan o’n gwaith ar ddiogelwch ar-lein. Rydym am i randdeiliaid ymateb i’n Cais am Dystiolaeth sydd ar y gweill: Trydydd cam rheoleiddio diogelwch ar-lein: Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi’u categoreiddio, sydd i'w cyhoeddi ym mis Mawrth 2024.
Profiadau defnyddwyr gyda thelerau ac amodau
Fe wnaethom hefyd archwilio profiadau defnyddwyr o delerau ac amodau ar wasanaethau cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos. Mae ymchwil flaenorol yn dangos bod llawer o ddefnyddwyr llwyfannau ar-lein yn methu ymwneud â thelerau ac amodau, felly roeddem am ddeall y rhesymau y tu ôl i’r diffyg ymgysylltu hwn.
Cyrchu telerau ac amodau wrth gofrestru
- Dywedodd traean o ddefnyddwyr llwyfannau ar-lein eu bod yn sganio telerau ac amodau am bwyntiau allweddol ac mae 8% yn gwneud ymdrech i ddarllen telerau ac amodau'n llawn cyn cytuno iddynt.
- Fodd bynnag, dywedodd ychydig dros hanner y defnyddwyr (52%) eu bod yn tueddu i anwybyddu telerau ac amodau wrth ymuno oherwydd eu bod yn meddwl y byddant yn cymryd gormod o amser i'w darllen (65%) neu eu bod yn eu cael nhw'n llethol (45%).
Y rhesymau a roddodd pobl dros gyrchu telerau ac amodau wrth gofrestru ar lwyfan oedd eu helpu penderfynu a ydynt yn gyfforddus i ymuno â llwyfan (54%), dysgu mwy am sut y bydd eu data'n cael ei ddefnyddio (51%), neu ddeall pa ddata fydd yn cael ei gasglu (45%).
Gwirio rheolau llwyfannau ynghylch yr hyn y gellir ei bostio
Roedd gennym ddiddordeb penodol mewn lefelau ymgysylltu â’r rheolau ynghylch yr hyn y gellir ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau rhannu fideos.
- Dywedodd mwy nag un o bob tri defnyddiwr (38%) nad ydynt byth yn gwirio’r rheolau ynghylch yr hyn y gellir ei bostio ar y llwyfan cyfryngau cymdeithasol neu rannu fideos a ddefnyddir amlaf ganddynt.
Y prif reswm dros beidio â gwirio rheolau'r llwyfan oedd oherwydd bod defnyddwyr yn hyderus nad oeddent yn mynd i wneud unrhyw beth a fyddai'n torri'r rheolau (57% o ymatebwyr).
Fodd bynnag, dywedodd dau draean (66%) o bobl eu bod yn gwirio’r rheolau ryw bryd wrth ddefnyddio llwyfan – er enghraifft pan fyddant yn gweld cynnwys y maent yn ansicr ohono (23%) neu pan gânt eu hannog i wirio nhw (19%). Y prif resymau a roddwyd dros wirio rheolau oedd oherwydd iddynt feddwl ei bod yn bwysig defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd gyfrifol (27%) neu wneud yn siŵr nad oeddent yn torri unrhyw reolau (26%).