Adolygiad Mynediad Telathrebu 2026

26 Mawrth 2024

Dyma ein hadolygiad o’r rheoliadau a fydd yn berthnasol i farchnadoedd telathrebu cyfanwerthol y DU o fis Ebrill 2026 tan fis Mawrth 2031.

Mae'r adolygiad yn ceisio sicrhau bod seilwaith band eang y Deyrnas Unedig yn addas at y diben a bydd yn ceisio gosod yr amgylchedd cywir i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn band eang gigabit-alluog, er mwyn darparu gwell gwasanaethau a mwy o ddewis i ddefnyddwyr.

Ers diwedd ein hadolygiad diwethaf yn 2021 (WFTMR), mae Openreach a llawer o gwmnïau eraill wedi parhau i fuddsoddi mewn rhwydweithiau gigabit-alluog newydd. Mae band eang gigabit-alluog bellach ar gael i fwy na 23.2 miliwn o gartrefi (78% o’r DU), a gall mwy na 17.1 miliwn o gartrefi (57%) gael mynediad at fand eang ffeibr llawn.

Disgwyliwn gyhoeddi ein prif ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer newidiadau i reoleiddio yn gynnar y flwyddyn nesaf, gyda’r bwriad o gyhoeddi ein penderfyniadau terfynol yn gynnar yn 2026.

Darllenwch y ddogfen adolygu sy’n nodi ein dull gweithredu a’n hamserlen ar gyfer AMT 2026 (PDF, 353.6 KB)