Y Bil Cyfryngau: Map Ofcom tuag at reoleiddio

26 Chwefror 2024

Mae Ofcom wedi nodi ei gynlluniau ar gyfer rhoi’r Bil Cyfryngau ar waith, unwaith y daw’n gyfraith.

Y Bil Cyfryngau yw’r diweddariad mawr cyntaf i ddeddfwriaeth y DU yn y maes hwn ers 20 mlynedd. Mae’n bwrw ymlaen â llawer o argymhellion Ofcom i ddarparu system gryfach o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n addas ar gyfer yr oes ddigidol, yn dilyn ein hadolygiad mawr, Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.

Yn benodol, mae’r Bil yn rhoi offer newydd i ni sicrhau y gall gwylwyr a gwrandawyr y DU barhau i gael mynediad at raglenni a newyddiaduraeth o ansawdd uchel, tra’n cael eu hamddiffyn rhag cynnwys niweidiol.

Mae’n gwneud newidiadau i’n cyfrifoldebau presennol – gan gynnwys ein dull o reoleiddio radio masnachol a sut rydym yn sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cyflwyno yn erbyn eu cwotâu. Mae hefyd yn cyflwyno dyletswyddau newydd, gan gynnwys gofyniad i roi rheoliadau newydd ar waith ar gyfer amlygrwydd teledu ar-lein a chynorthwywyr llais, yn ogystal â chod gosod safonau newydd ar gyfer gwasanaethau ffrydio.

Byddwn yn rhoi’r rheolau newydd ar waith cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddod yn gyfraith, gan sicrhau bod ein dull o weithredu'n deg, yn gymesur ac yn effeithiol. Mae’r llinellau amser a nodir yn ein map tuag at reoleiddio'n seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o’r dyletswyddau newydd a phryd y disgwyliwn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.

Wrth i amserlennu Seneddol a’n gwaith paratoi ein hunain fynd rhagddo, gallai ein cynlluniau newid, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach fel y bo angen.

Y Bil Cyfryngau - Map Ofcom tuag at reoleiddio (PDF, 1.1 MB)