Radio DAB+

29 Medi 2023

Defnydd o radio DAB+ gan aelwydydd y DU

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu canfyddiadau ymchwil y farchnad a gynhaliwyd i amcangyfrif treiddiad dyfeisiau DAB+ yn y DU a’r defnydd ohonynt.

DAB+ yw'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer darlledu sain ddigidol. Mae'n fwy effeithlon na DAB safonol, gan ganiatáu i fwy o wasanaethau gael eu darlledu ar yr un amlblecs gydag ansawdd sain cyfatebol.

Ein canfyddiadau allweddol:

  • Roedd gan 36% o aelwydydd set DAB+, naill ai gartref neu mewn o leiaf un car
  • Roedd gan ddau draean (66%) o berchnogion DAB yn y cartref set DAB+
  • Roedd chwarter y gwrandawyr DAB yn y cartref ac un o bob pump gwrandäwr DAB yn y car wedi gwrando ar orsaf radio DAB+ yn ystod y mis diwethaf

Cynhaliwyd yr ymchwil ar ffurf arolwg wyneb yn wyneb cynrychioliadol yn genedlaethol o 4,055 o oedolion yn y DU ym mis Hydref/Tachwedd 2022.

O ran ymgysylltu parhaus â diwydiant, nodwn y materion o ran prisio unedau capasiti a godwyd yn yr Adolygiad Digidol a Sain ac rydym yn agored i glywed barn rhanddeiliaid perthnasol ar y mater hwn. At hynny, croesawn ymgysylltiad pellach gan randdeiliaid sydd â thystiolaeth i'w rhannu a allai ysgogi ystyriaeth bellach o'r materion cysylltiedig eraill yr ymdrinnir â hwy yn y ddogfen hon.

Adroddiad ar DAB+ (PDF, 561.3 KB)