Penderfyniad – Star China Media Limited (tegwch a phreifatrwydd)

08 Mawrth 2021

Mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £100,000 ar Star China Media Limited mewn perthynas â'i wasanaeth CCTV News (a ailenwyd yn China Global Television Network ar 31 Rhagfyr 2016) am fethu â chydymffurfio â'n rheolau darlledu.

Ar 27 Awst 2013, darlledodd CCTV News y rhaglen newyddion China 24 a adroddodd ar arestiad Mr Peter Humphrey am drosedd, ac ar 14 Gorffennaf 2014 fe ddarlledodd News Hour a adroddodd ar ei dditiad. Roedd y rhaglenni'n cynnwys lluniau o Mr Humphrey yn ymddiheuro am gyflawni'r drosedd.

Cyflwynodd Mr Peter Humphrey gŵyn i Ofcom ym mis Tachwedd 2018 am driniaeth anghyfiawn neu annheg ac amharu'n ddigyfiawnhad ar breifatrwydd mewn perthynas â dod o hyd i ddeunydd a oedd wedi'i gynnwys yn y ddwy raglen hon a ddarlledwyd gan CCTV News.

Yn Nyfarniad Ofcom a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2020 yn rhifyn 406 y Bwletin Darlledu ac Ar-alw (PDF, 420.7 KB) (Saesneg yn unig), nodwyd bod y ddwy raglen wedi torri Rheolau 7.1 ac 8.1 ein Cod Darlledu.

Mae Ofcom wedi gosod sancsiwn ar Star China Media Limited ar ffurf cosb ariannol o £100,000.

Penderfyniad Sancsiwn – Star China Media Limited (tegwch a phreifatrwydd) (PDF, 654.1 KB) (Saesneg yn unig)