Penderfyniad – Star China Media Limited (didueddrwydd dyladwy)

08 Mawrth 2021

Mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £125,000 ar Star China Media Limited mewn perthynas â'i wasanaeth CGTN am fethu â chydymffurfio â'n rheolau darlledu.

Rhwng 11 Awst 2019 a 21 Tachwedd 2019, darlledodd CGTN y pum rhaglen a ganlyn:

  • The World Today, 11 Awst 2019, 17:00
  • The World Today, 26 Awst 2019, 08:00
  • The World Today, 31 Awst 2019, 07:00
  • The World Today, 2 Medi 2019, 16:00
  • China 24, 21 Tachwedd 2019, 12:15

Roedd pob rhaglen yn ymwneud â'r protestiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn Hong Kong yn ystod y cyfnod hwn. Yn y lle cyntaf roedd y protestiadau hyn yn ymateb i Fesur Diwygio Cyfraith Estraddodi Llywodraeth Hong Kong a fyddai wedi caniatáu i'r rhai y drwgdybir eu bod yn droseddwyr yn Hong Kong gael eu hanfon i dir mawr Tsieina i'w rhoi ar dreial.

Ym Mhenderfyniadau Ofcom a gyhoeddwyd 26 Mai 2020, yn Rhifyn 403 y Bwletin darlledu ac Ar-alw (PDF, 706.0 KB) (Saesneg yn unig), nododd Ofcom fod pob un o'r pum rhaglen wedi methu â chynnal didueddrwydd dyladwy ac wedi torri Rheolau 5.1, 5.11 a 5.12 y Cod Darlledu.

Mae Ofcom wedi gosod sancsiwn ar Star China Media Limited ar ffurf cosb ariannol o £125,000.

Penderfyniad sancsiwn – Star China Media Limited (didueddrwydd dyladwy) (PDF, 775.0 KB) (Saesneg yn unig)