Penderfyniad – Islam Channel Limited

03 Tachwedd 2020

Mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £20,000 fine i Islam Channel Limited mewn perthynas â'i wasanaeth Islam Channel am fethu â chydymffurfio â'n rheolau darlledu.

Ar 11 Tachwedd 2018, 23:00, darlledodd y Trwyddedai bennod o The Rightly Guided Khalifas, cyfres addysg grefyddol.

Yn ein Penderfyniad a gyhoeddwyd ar 7 Hydref 2019 yn rhifyn 388 y Bwletin Darlledu ac Ar-alw (PDF, 1.3 MB), canfu Ofcom fod y rhaglen yn cynnwys iaith casineb wrth-semitig sy'n groes i Reolau 2.3, 3.2 a 3.3 y Cod Darlledu.

Mae Ofcom wedi gosod cosb ar y Trwyddedai ar ffurf dirwy ariannol o £20,000, cyfarwyddyd i ddarlledu datganiad ar ganfyddiadau Ofcom ar ddyddiad ac ar ffurf sydd i'w pennu gan Ofcom a chyfarwyddyd i beidio ag ailddarlledu'r rhaglen.

Penderfyniad – Islam Channel Limited (PDF, 515.6 KB)