20 Gorffennaf 2021

Mewn newyddion hyderwn: cadw ffydd â’r cyfryngau yn y dyfodol

Araith gyweirnod gan y Fonesig Melanie Dawes i Gonfensiwn Cyfryngau Rhydychen, 19 Gorffennaf 2021.

Bore da.

Mae'n bleser agor y digwyddiad eleni, ar ddiwrnod o optimistiaeth ofalus.

Wrth i Loegr godi cyfyngiadau Covid heddiw, a'r DU gyfan yn cynllunio ar gyfer ffordd fwy normal o fyw, mae hyn yn teimlo fel cyfle da i bwyso a mesur.

Ar ôl newidiadau'r flwyddyn ddiwethaf, sut y gall ein sector cyfryngau – y gorau yn y byd, yn fy marn i – ailddyfeisio ei hun ar gyfer y dyfodol, a sefyll yn uchel ymysg y tryblith o gystadleuaeth ac aflonyddwch?

I helpu i ddod o hyd i atebion i hynny, rwyf am ganolbwyntio ar angen dynol, emosiynol iawn sy'n sail i bob perthynas lwyddiannus rhwng teuluoedd, cydweithwyr a dinasyddion.

Hebddo, ni all cyfryngau ffynnu; ac ni all democratiaeth lwyddo.

Y peth hwnnw yw ymddiriedaeth.

Ymddiriedaeth yw sylfaen cymdeithas sy'n gweithio'n dda. Mae'n sail i bob arian cyfred; ased pob busnes llwyddiannus; a chryfder mwyaf balch ein sector cyfryngau traddodiadol.

Ond mae ymddiriedaeth ar bremiwm. Mae arolwg blynyddol Edelman yn dangos bod pobl, ledled y byd eleni, yn ymddiried yn llai mewn academyddion, llywodraethau, cyfryngau – ac, ie, Prif Weithredwyr.

Mae ofn, dryswch a gwybodaeth anghywir wedi cynllwynio i wneud pobl yn fwyfwy wyliadwrus o’r hyn y maent yn ei weld a'i glywed.

Mae ymddiriedaeth wedi cael ei phrofi gan effeithiau iechyd ac economaidd y pandemig, y protestiadau byd-eang dros hiliaeth, ansefydlogrwydd gwleidyddol a gwrthdaro diwylliannol ynghylch pa fath o gymdeithas yr ydym am fyw ynddi.

Felly heddiw, hoffwn ystyried tair agwedd bwysig ar ymddiriedaeth.

Yn gyntaf, ymddiriedaeth mewn cyfryngau cymdeithasol, a'r drafodaeth ehangach am brofiadau pobl o fod ar-lein.

Yn ail, ymddiriedaeth yn y cyfryngau traddodiadol yn y DU, megis newyddion teledu a radio. Sut yr ydym yn ei gynnal, ond hefyd yn diogelu rhyddid mynegiant ar adeg o newid ac ansicrwydd, pan fydd cynnwrf emosiynol ar ei uchaf?

Ac yn drydydd, ymddiriedaeth yn y rheoleiddiwr. Pam ddylech chi ymddiried yn Ofcom i wneud y penderfyniadau cywir?

Ymddiriedaeth yn y cyfryngau traddodiadol

Yn gyntaf, yr wyf am daro nodyn o wir bositifrwydd. Rwy'n teimlo bod ei angen arnom ni i gyd.

Yn ôl yn 2016, pan ddominyddwyd ein newyddion a'n gwleidyddiaeth gan deimladau cryfion ar y naill ochr a'r llall i'r ddadl Brexit, roedd ymddiriedaeth yn y cyfryngau yn gymharol isel. Ar ôl y refferendwm, cafodd newyddion teledu ei raddio'n uchel am ymddiriedaeth gan chwech o bob deg oedolyn, a phapurau newydd gan lai na hanner.

Ond dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i wyddoniaeth feddygol frwydro yn erbyn y feirws a chael effaith mor anhygoel, mae ein sefydliadau newyddion traddodiadol – darlledwyr y sector cyhoeddus ynghyd â rhai fel Sky News – wedi bod yn arwain y frwydr yn erbyn gwybodaeth anghywir.

Yn y cyfnod clo cyntaf y llynedd, roedd pobl yn chwilio am wybodaeth ddibynadwy a diduedd yr oedd modd iddynt ymddiried ynddi. Cyflawnodd ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu cyfran uchaf o'r gynulleidfa mewn mwy na chwe blynedd.

Er gwaetha’r holl rymoedd sydd wedi rhoi ffydd pobl i'r prawf, mae ein hymchwil newydd yn dangos bod tua saith o bob deg oedolyn bellach yn graddio teledu, papurau newydd a chylchgronau’n uchel am ymddiriedaeth. Mae'r niferoedd hynny'n hynod o gryf.

Felly, wrth i ni ddod allan o'r pandemig ac edrych tuag at ddyfodol mwy disglair, credaf y gallwn fod yn optimistaidd ynghylch gallu ein diwydiant i adfer a chadw ymddiriedaeth pobl Prydain.

Wrth gwrs, ni all neb fod yn hunanfodlon. Mae llawer o waith i'w wneud i ddiwygio cyfryngau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr oes ddigidol, a'u cadw'n weladwy ym mywydau pobl. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom nodi cynlluniau ac argymhellion manwl i Lywodraeth y DU yn y meysydd hyn.

Mae cynrychiolaeth yn fater hefyd. Mae pobl ledled y DU am weld pobl fel nhw nid yn unig yn y cynnwys maen nhw'n ei weld a'i glywed, ond hefyd o fewn y darlledwyr eu hunain.

Mae pobl anabl, menywod a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn parhau i gael eu tangynrychioli yn y diwydiant.

Mae dosbarth cymdeithasol a daearyddiaeth hefyd yn ystyriaethau pwysig. O'i gymharu â phoblogaeth y DU, mae gweithwyr teledu tua dwywaith yn fwy tebygol o fod wedi tyfu i fyny mewn cartref proffesiynol, a dwywaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu haddysgu'n breifat.

Ac mae'r rhan fwyaf o swyddi darlledu yn dal i fod wedi'u lleoli yn Llundain, er bod pedair rhan o bump o'r boblogaeth yn byw mewn mannau eraill.

Mae gwneud cynnydd pellach ar amrywiaeth yn hanfodol er mwyn meithrin a chynnal ymddiriedaeth yn ein cyfryngau.

Gwyddom hefyd fod ymddiriedaeth, sydd mor galed ei hennill, mynd i ddarnau’n hawdd. Profodd y BBC hynny'n ddiweddar, yn sgil adroddiad yr Arglwydd Dyson ar gyfweliad ym 1995 gyda Thywysoges Cymru.

Yr oeddem yn pryderu'n fawr am y canfyddiadau hynny. Codwyd cwestiynau pwysig ganddynt am ddiwylliant, tryloywder ac atebolrwydd y BBC. A gwyddom o'n hymchwil y gall digwyddiadau hanesyddol gael effaith niweidiol, hirdymor ar y ffordd y gwelir cynnwys y BBC heddiw.

Felly rwy'n falch bod Syr Nick Serota bellach yn arwain adolygiad o brosesau golygyddol y BBC. A bydd Ofcom yn rhoi sylw manwl i'w ganfyddiadau fel rhan o'n harolwg hanner ffordd trwy’r Siarter ein hunain o'r BBC, sy'n dechrau y mis yma.

Mae rheswm arall pam na ellir cymryd ymddiriedaeth yn ganiataol. I'w orchymyn, mae angen amser ar ddarlledwyr gyda'u cynulleidfa. Ac mae'n anodd cynnal gwylwyr cyson, ffyddlon yn wyneb cystadleuaeth ddigidol ffyrnig.

Gwelsom hynny yn y cyfnod clo. Ar ôl y cynnydd hwnnw yn eu cyfran o gynulleidfaoedd, collodd ein Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus dir i wasanaethau ffrydio. Mae'r amser a dreuliodd pobl yn gwylio fel Netflix a Disney+ wedi dyblu mewn gwirionedd.

Ond cryfder parhaus darlledwyr traddodiadol – gan gynnwys gwasanaethau uchel eu parch fel Sky News – yw eu gallu i wneud rhywbeth na all llwyfannau UDA ei wneud yn aml: apelio at bobl o bob cefndir, cyrraedd a gwasanaethu pob rhan o'r DU.

Trwy fuddsoddi yn y cryfderau hynny, a chynnal eu henw da am newyddion cywir, gall ein darlledwyr barhau i fod yn bwysig i filiynau o bobl – hyd yn oed wrth i fwy ohonynt gael eu newyddion ar-lein.

Ymddiriedaeth yn y cyfryngau cymdeithasol

Mae hanner yr oedolion bellach yn cael eu newyddion gan rwydweithiau cymdeithasol. Ymhlith oedolion ifanc, a phobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, mae’n tua naw o bob deg. Beth mae hynny'n ei olygu o ran ymddiriedaeth?

Yma, mae'r darlun yn llai positif.

Yr wythnos nesaf, bydd Ofcom yn cyhoeddi ei arolwg blynyddol o sut mae pobl yn y DU yn teimlo am y newyddion. Rydym wedi canfod, pan ddaw'n fater o ddarparu newyddion dibynadwy, uchel ei barch, fod y cyfryngau cymdeithasol yn methu.

Dim ond un o bob tri defnyddiwr sy'n ymddiried yn eu sianelau cymdeithasol am newyddion – sy'n llawer is nag unrhyw ffynhonnell newyddion arall. Cymharer hynny â thua saith o bob deg ar gyfer teledu a phapurau newydd.

Dywed pobl wrthym fod ganddynt bryderon am faint o wybodaeth anghywir sydd i'w gweld ar lwyfannau cymdeithasol.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn sgorio'n is na'r cyfryngau traddodiadol am ganfyddiadau o’u hansawdd, didueddrwydd, cywirdeb, ystod o farn, manylder y dadansoddi a'r gallu i helpu pobl i wneud synnwyr o'r byd.

Ac mae'r diffyg ymddiriedaeth ar-lein yn ymwneud â mwy na newyddion yn unig. Mae'n mynd at wraidd cyfrifoldebau cwmnïau technoleg i ymddwyn yn y ffordd gywir. Ar y sgôr honno, canfu Edelman fod  cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn isaf eu parch na'r rhai mewn unrhyw sector arall o'r economi.

Mae hynny'n cyd-fynd â'n hymchwil, lle mae defnyddwyr yn gweld y cyfryngau cymdeithasol fel y brif ffynhonnell niwed ar-lein.

Mae pobl hefyd yn poeni am ddiogelwch, preifatrwydd a chynnwys niweidiol. Felly mae ymddiriedaeth mewn newyddion yn rhan o ddarlun mwy – un lle gall bod ar-lein, i lawer o bobl, fod yn brofiad rhwystredig, pryderus neu hyd yn oed drallodus.

Mae chwech o bob deg oedolyn ar-lein wedi cael o leiaf un profiad niweidiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae un o bob tri yn dweud wrthym fod y risgiau o fod ar-lein wedi dechrau gorbwyso'r manteision.

Mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn cefnogi rheolau llymach i unioni'r cydbwysedd hwnnw. Felly rydym yn falch bod Llywodraeth y DU wedi dewis Ofcom i helpu i fynd i'r afael â'r broblem hon, drwy'r Mesur Diogelwch Ar-lein. Yn awr, union siâp a chwmpas y rheolau newydd fydd i Lywodraeth a Senedd y DU benderfynu arnynt.

Mae'r angen am reoleiddio wedi dod i ffocws cliriach fyth dros yr wythnos ddiwethaf, wrth i aelodau o'n tîm pêl-droed anhygoel yn Lloegr ddioddef cam-drin hiliol ar y prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Nid oes lle yn ein cymdeithas i hiliaeth, boed hynny ar-lein neu all-lein ac mae’r llwyfannau eu hunain wedi cyfaddef iddynt fethu â gwneud digon i ddileu'r sylwadau gwarthus hyn ar adeg genedlaethol hollbwysig. Rhaid iddynt wneud yn llawer gwell na hyn yn y dyfodol.

Pan fydd gan Ofcom y pŵer i reoleiddio diogelwch ar-lein, byddwn yn dwyn y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfrif am gamdriniaeth fel hyn. mae’n rhaid iddynt fod yn llawer mwy tryloyw ynglŷn â'r rheolau sydd ganddynt ar waith i ddelio ag ef, a byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod y rheolau hynny'n cael eu gorfodi'n briodol.

Mae’n rhaid i bob cwmni roi sylw a gofal ychwaegol i daclo cynnwys anghyfreithlon ac amddiffyn plant. Mae’n rhaid hefyd i wasanaethau defnyddwyr i ddefnyddwyr risg uchel sy’n ymgyrraedd yn bell weithio i amddiffyn defnyddwyr sy'n oedolion rhag cynnwys 'cyfreithiol ond niweidiol' fel gwybodaeth anghywir.

Wrth gwrs, mae’n rhaid i'r rheolau newydd daro'r cydbwysedd cywir. Mae’n rhaid i ni ddiogelu rhyddid llafar a cynnwys newyddiadurol. Dylai cyd-drafodaeth gadarn, yn enwedig ar faterion sy'n ymwneud â llywodraeth a democratiaeth, barhau. Nid ydym am lesteirio arloesedd na buddsoddiad.

Ond ar hyn o bryd, mae'r llwyfannau'n gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut i daro'r cydbwysedd hwn ar eu pennau eu hunain. Nid oes tryloywder na chysondeb ynglŷn â'r rheolau ac algorithmau – sut y caiff rhyddid llafar ei ategu ar yr un pryd â thaclo cynnwys niweidiol a sarhaus a'i atal rhag mynd yn feirysol.

Mae'r rhyngrwyd a'r llwyfannau ar-lein wedi dod â manteision economaidd enfawr ac wedi ehangu ein hawl i fynegi ein hunain yn aruthrol. Trwy ddod ag atebolrwydd a thryloywder i'r maes hwn am y tro cyntaf gallwn ddiogelu'r datblygiadau mawr hynny ac ar yr un pryd adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein i bawb.

Ymddiriedaeth yn Ofcom

Yn olaf, fel y corff a fydd yn gorfodi'r newidiadau, gwyddom fod yn rhaid  inni wneud pethau'n iawn. Dim ond un ochr o'r stori yw ymddiriedaeth yn y cyfryngau. Mae’n hanfodol hefyd bod pobl yn ymddiried yn y rheoleiddiwr.

Dyna pam, pan ddeuwn i ymgymryd â dyletswyddau newydd, y bydd arwyddeiriau Ofcom, fel y maent wedi bod erioed ac fel y nodir yn ein statud sefydlu – tryloyw, atebol, cymesur, cyson ac wedi'u targedu dim ond at yr achosion hynny lle mae angen gweithredu.

Felly ni fydd hyn yn ymwneud ag Ofcom yn ceisio rheoleiddio darnau unigol o gynnwys. Yn hytrach, bydd yn ymwneud â dal llwyfannau i gyfrif am asesu'r risgiau i'w defnyddwyr, a rhoi mesurau synhwyrol, pendant ar waith i fynd i'r afael â hwy. Byddwn yn archwilio ac yn gorfodi yn erbyn eu systemau a'u prosesau, yn hytrach na'r cynnwys. Mae hynny'n wahaniaeth pwysig i'r ffordd yr ydym yn rheoleiddio cyfryngau darlledu.

Byddwn yn sicrhau bod cwmnïau'n dryloyw,  gan daflu goleuni ar natur y broblem, ac a yw eu hymdrechion i ddiogelu defnyddwyr yn effeithiol.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein rheoleiddio'n cefnogi arloesedd a chystadleuaeth yn y DU, a bod ein hymyriadau yn gymesur.

Rhan hollbwysig o hynny yw diogelu rhyddid mynegiant pobl.

Rhyddid mynegiant

Rhyddid llafar yw anadl einioes y rhyngrwyd. Mae wrth wraidd bywyd cyhoeddus, ac yn gyflwr angenrheidiol cymdeithas ddemocrataidd. Mae hefyd ymhlith y gwerthoedd sydd yn bwysicaf i Ofcom.

I gael prawf o hynny, edrychwch ar ein record ym maes teledu a radio. Mae Senedd y DU yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom ddiogelu gwylwyr rhag deunydd niweidiol, mewn ffordd sy'n gwarantu orau y lefel briodol o ryddid mynegiant ar y teledu a'r radio. Wrth wneud hynny, mae gennym flynyddoedd o brofiad o roi ystyriaeth briodol i hawliau darlledwyr a gwylwyr i ddal barn ac i dderbyn a rhannu gwybodaeth.

Ond nid oes hawl i beidio â chael eich tramgwyddo. Felly, dim ond os ystyriwn ei fod yn gwbl angenrheidiol y byddwn yn ymyrryd. Rydym bob amser yn gwreiddio ein penderfyniadau mewn tystiolaeth, ymchwil a dealltwriaeth fanwl o'r hyn y mae gwylwyr a gwrandawyr yn ei ddisgwyl.

Am y rhan fwyaf o'r amser, mae darlledwyr yn gwneud pethau'n iawn. Maent yn osgoi niwed difrifol, yn trin pobl yn deg ac yn cynnig amrywiaeth o safbwyntiau. Gwaith Ofcom yw gweithredu os byddant yn methu. Ond mae'r achlysuron hynny'n gymharol brin.

Rydym yn asesu pob cwyn a dderbyniwn, ac mae ymyrryd yn far uchel. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cododd y cyhoedd gwynion am bron i 12,000 o raglenni ar y teledu a'r radio. Bu i ni ymchwilio'n ffurfiol i 48 o'r rheini, a nodwyd bod dim ond 29 yn groes i'n rheolau. Rydym wedi caniatáu i drafodaeth rymus, bryfoclyd – o amrywiaeth o safbwyntiau a safbwyntiau'r byd – ffynnu ar sianeli sy'n amrywio o ITV i LBC, Al Jazeera i'r newydd-ddyfodiad GB News.

Yn yr un ffordd, pan fydd darlledwyr yn ei gael yn anghywir iawn, ni fyddwn yn petruso cyn camu i mewn. Ar lond llaw o achlysuron, rydym wedi cymryd y cam terfynol o ddirymu trwydded. Mae'r rhesymau wedi cynnwys araith gasineb terfysgaidd a chynnwys rhywiol di-gêl a oedd ar gael i blant. Y llynedd, ildiodd sianel ei thrwydded ar ôl i ni nodi iddo ddarlledu anogaeth i lofruddio. Gobeithiaf na fyddai neb yn dadlau y dylai achosion fel hyn gael eu cyfiawnhau gan ryddid mynegiant.

Yn ystod y pandemig, rydym wedi sancsiynu rhai sianeli llai a oedd yn hyrwyddo damcaniaethau di-sail yn ddi-hid – fel cysylltu mastiau symudol 5G â Covid-19. Gallai'r math hwnnw o wybodaeth anghywir fod wedi peryglu iechyd pobl, ar adeg o bwysau difrifol ar y GIG.

Ond ar yr un pryd, rydym wedi egluro dro ar ôl tro fod darlledwyr yn rhydd i herio neu siarad yn groes i gyngor a chyfyngiadau iechyd y cyhoedd ar fywydau pobl. Yn wir, credwn fod y cyfyngiadau hynny'n gwneud yr hawl i ryddid mynegiant hyd yn oed yn fwy hanfodol.

Felly, os darllenwch fod Ofcom yn ceisio sensro trafodaeth am y coronafeirws ar y teledu a'r radio, dylech ymddiried ym marn yr Uchel Lys, a archwiliodd yr honiadau hynny a'u diystyru.

Yn yr un ffordd, os yw Ofcom yn gwneud penderfyniadau ar gam, hyderwch ein bod bob amser yn cael ein dwyn i gyfrif – trwy'r llysoedd, a hawliau apelio. mae Senedd y DU hefyd yn parhau i graffu ar ein gwaith a fframio ein dyletswyddau.

I gloi

Yn anad dim, gobeithiaf y gallwch ymddiried ynom i wneud penderfyniadau synhwyrol. Os ydych yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a'ch bod yn gwerthfawrogi ei allu anhygoel i greu cyd-drafodaeth, sgwrs a barn ymhlith rhannau cyfan o'r boblogaeth, gallwch ymddiried yn Ofcom i werthfawrogi hynny hefyd.

Os ydych yn gweithio yn y sector technoleg, a'ch bod yn deall yr angen i reoleiddio fod yn hyblyg – a heb fod yn rhwystr i arloesedd – gallwch weld bod Ofcom yn recriwtio amrywiaeth o arbenigwyr technoleg sydd â gwybodaeth ddofn am y sector, a fydd yn ein helpu i ddeall yr anghenion hynny.

Ac mae gennych fy ngair y byddwn yn parhau i wrando ar y cyhoedd, diwydiant ac arbenigwyr cyn gwneud ein penderfyniadau mewn ffordd sy'n drylwyr, yn dryloyw ac yn seiliedig ar y dystiolaeth orau.

Yr wythnos hon, byddwn yn clywed eich barn ar ddyfodol y cyfryngau. Gobeithiaf eich bod yn rhannu fy optimistiaeth y gallwn, drwy gydweithio, ddiogelu rolau darlledu traddodiadol ac ansawdd newyddion cywir ym mywydau pobl.

Y gallwn wireddu bywyd mwy diogel ar-lein, lle mae pobl yn teimlo'n fwy hyderus yn yr hyn y maent yn ei weld a'i glywed.

Ac y gallwn gyflawni'r pethau hynny ar yr un pryd â chynnal pwysigrwydd rhyddid mynegiant.

Mae gonestrwydd, uniondeb a rhyddid i gyd yn hanfodol i gymdeithas iach, democratiaeth ac economi ddiwylliannol.

Credaf, os byddwn yn ymddiried yn y pethau hyn, y cawn ein had-dalu.

Diolch.

See also...