Hygyrchedd checker.ofcom.org.uk

19 Ebrill 2021

Yn ôl i hafan y gwiriwr

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i checker.ofcom.org.uk

Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cymaint â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau a lefelau cyferbyniad
  • chwyddo mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw mapio atebion yn hygyrch

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â thîm y we.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â thîm y we.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post yn Gymraeg neu Saesneg neu wneud cwyn drwy ein hyb.

Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy gyfrwng BSL neu ffôn testun ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, ni allwn dderbyn galwadau cyfnewid testun.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sydd wedi’i restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

  • Rydym yn defnyddio mapiau i ddarlunio data. Er nad oes modd cael gafael ar fapiau, rydyn ni’n disgrifio argaeledd band eang neu symudol yn y tabl canlyniadau.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi i ddechrau ar 3 Mawrth 2021 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Profwyd y tudalennau hyn a’u rhannau yn erbyn WCAG 2.1 ar bob lefel.

Fe wnaethon ni brofi http://checker.ofcom.org.uk/

Y technolegau mynediad a ddefnyddiwyd:

  • JAWS 18 a 2019
  • NVDA
  • VoiceOver
  • Dragon Voice Activation V15
  • Talkback/Voice Assistant

Porwyr a wiriwyd:

  • Chrome
  • FireFox
  • IE11
  • Safari

Cyhoeddwyd y datganiad hwn ar 6 Ebrill 2021.

Yn ôl i hafan y gwiriwr