Rhywbeth ar-lein sy’n dangos camfanteisio’n rhywiol ar blant neu gam-drin plant

Ffoniwch 999 os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol.

Os ydych wedi dod o hyd i rywbeth sy'n dangos camfanteisio’n rhywiol ar blant neu gam-drin plant, rhowch wybod amdano i'r gwasanaeth y gwnaethoch ei weld arno. Dylai fod gwybodaeth am sut i wneud hyn ar wefan neu ap y gwasanaeth.

Os yw’r hyn yr ydych wedi'i weld yn dangos cam-drin plant yn rhywiol, gallwch hefyd roi gwybod am hyn i’r Internet Watch Foundation - yn ddienw ac yn gyfrinachol. Mae’r Internet Watch Foundation yn gweithio gyda gwasanaethau ledled y byd i ddileu cynnwys cam-drin plant yn rhywiol.

Os ydych o dan 18 oed ac yn poeni am rywbeth rhywiol sydd wedi digwydd i chi ar-lein, rhowch wybod i'r tîm Rheolaeth Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP). Dylech ddweud wrth CEOP hefyd os ydych chi'n rhiant neu warcheidwad rhywun yr ydych yn meddwl sydd wedi bod yn destun cam-drin neu gamfanteisio rhywiol ar-lein

Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddiogelwch plentyn? Dweud wrth yr NSPCC.

Oes gennych  bryderon o hyd am rywbeth rydych wedi'i weld ar-lein? Rhowch wybod i ni (Ofcom).

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?