Datganiad: Cynllun Gwaith arfaethedig Ofcom ar gyfer 2024/25
- Dechrau: 15 Rhagfyr 2023
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 09 Chwefror 2024
Datganiad wedi'i gyhoeddi 26 Mawrth 2024
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Chynllun Gwaith ar gyfer 2024/25, sy'n amlinellu ei meysydd â ffocws ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae'r sectorau rydym yn eu rheoleiddio - darlledu, post, telathrebu, sbectrwm a gwasanaethau ar-lein - yn hanfodol ym mywydau bob dydd pobl, boed hynny gartref, yn y gwaith neu'r ysgol. Maent hefyd yn esblygu'n gyson, gyda thechnoleg yn datblygu, marchnadoedd yn trawsnewid ac ymddygiad defnyddwyr yn newid. Mae'n golygu bod ein cenhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb yn parhau i fod mor bwysig ag erioed.
Y deuddeg mis nesaf hefyd fydd y flwyddyn ariannol lawn gyntaf ers pasio'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein - yr ehangiad mwyaf ym mhwerau Ofcom ers ugain mlynedd. Bydd yn gweld cerrig milltir arwyddocaol wrth i ni weithredu ein dyletswyddau newydd.
Mae'r Cynllun Gwaith yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac yn esbonio sut y byddwn yn eu cyflwyno. Dyma nhw:
- Rhyngrwyd y gallwn ddibynnu arno - sicrhau cysylltiadau a gwasanaethau cyflym, dibynadwy a fforddiadwy i bawb, ym mhobman;
- Cyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi – amrywiaeth eang o gyfryngau o ansawdd uchel, ac amddiffyn cynulleidfaoedd tra'n sicrhau bod rhyddid mynegiad yn cael ei ddiogelu;
- Rydym yn byw bywyd mwy diogel ar-lein - gweithredu'r drefn diogelwch ar-lein newydd fel bod llwyfannau'n fwy diogel ar gyfer eu defnyddwyr; a
- Galluogi gwasanaethau di-wifr yn yr economi ehangach - sicrhau defnydd effeithlon o sbectrwm a chefnogi twf ar draws yr economi.
Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad heddiw ar ddull gweithredu strategol Ofcom ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial (AI) 2024/25 (PDF, 272.0 KB).
Er i AI gael ei ddefnyddio yn y sectorau a reoleiddiwn ers blynyddoedd, mae ei fabwysiad a'i alluoedd yn tyfu'n gyflym.
Rydym yn gefnogol o Egwyddorion AI Llywodraeth y DU, ac mae'r diweddariad a gyhoeddir heddiw yn nodi ein hymagwedd at AI dros y flwyddyn i ddod er mwyn sicrhau bod manteision AI yn cael eu harneisio a bod y risgiau wedi'u rheoli.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Apple, Broadcom, Cisco Systems, Hewlett Packard and Meta (PDF File, 73.4 KB) | Sefydliad |
Banbury FM (PDF File, 100.2 KB) | Sefydliad |
Better Media (PDF File, 131.5 KB) | Sefydliad |
British Entertainment Industry Radio Group (BEIRG) (PDF File, 174.8 KB) | Sefydliad |
BT Group (PDF File, 177.8 KB) | Sefydliad |