Gweithdrefnau ar gyfer delio ag ymchwiliadau a sancsiynau yng nghyswllt safonau cynnwys a thrwyddedu
- Dechrau: 22 Rhagfyr 2016
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 22 Ionawr 2017
Ymgynghoriad ynghylch diwygio'r gweithdrefnau ar gyfer gwasanaethau teledu, radio a fideo ar alwad
Mae Ofcom yn paratoi i reoleiddio’r BBC o 3 Ebrill 2017 ymlaen. Wrth i ni baratoi ein gweithdrefnau BBC drafft ar gyfer ymgynghori yn eu cylch (gweler https://www.ofcom.org.uk/consultations-and-statements/category-2/bbc-content-standards-investigations-and-sanctions),), yr ydym hefyd wedi adolygu ein gweithdrefnau presennol ar gyfer ystyried ac ymchwilio i achosion o dorri’r Cod Darlledu (“y Cod”), rheolau a thrwyddedau darlledu Ofcom ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar alwad, sy’n berthnasol i’r holl ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar alwad eraill mae Ofcom yn eu rheoleiddio.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r gweithdrefnau bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth:
- ystyried ac ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â safonau cynnwys o dan y Cod;
- ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion am Degwch a Phreifatrwydd o dan y Cod;
- ystyried ac ymchwilio i faterion o dan drwyddedau darlledu Ofcom;
- ystyried rhoi sancsiynau am dorri trwyddedau darlledu;
- ystyried ac ymchwilio i faterion o dan y rheolau ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar alwad; ac
- ystyried rhoi sancsiynau sy’n codi yng nghyd-destun gwasanaethau rhaglenni ar alwad.
Ar ôl ymgynghori, bydd Ofcom yn cyhoeddi ei weithdrefnau newydd. Yr ydym yn bwriadu iddynt ddod i rym ochr yn ochr â’n gweithdrefnau BBC pan fydd Ofcom yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoleiddio’r BBC ar 3 Ebrill 2017.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Dim ymatebion i’w dangos.