Cais am dystiolaeth: Trydydd cam o reoleiddio diogelwch ar-lein

  • Dechrau: 25 Mawrth 2024
  • Statws: Ar agor
  • Diwedd: 20 Mai 2024

Rydym yn gofyn am dystiolaeth heddiw i lywio ein codau ymarfer a'n canllawiau ar y dyletswyddau ychwanegol a fydd yn berthnasol i rai o’r gwefannau ac apiau ar-lein a ddefnyddir fwyaf.

O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i bob cwmni technoleg sydd o fewn cwmpas roi mesurau diogelwch priodol ar waith i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed ar-lein. At hynny, bydd yn rhaid i ddarparwyr rhai gwasanaethau ar-lein - a elwir yn wasanaethau wedi'u categoreiddio - gydymffurfio â gofynion ychwanegol os ydynt yn perthyn i un o dri chategori, a elwir yn Gategori 1, 2A neu 2B. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein cyngor i Lywodraeth y DU heddiw ynglŷn â'r trothwyon a fyddai'n pennu a yw gwasanaeth yn perthyn i Gategori 1, 2A neu 2B.

Mae'r dyletswyddau ychwanegol hyn yn cynnwys rhoi mwy o offer i ddefnyddwyr reoli pa gynnwys y maent yn ei weld, sicrhau diogelwch ar gyfer cynnwys cyhoeddwyr newyddion a newyddiadurol, atal hysbysebu twyllodrus a chynhyrchu adroddiadau tryloywder. Mae dyletswyddau gwahanol yn berthnasol, gan ddibynnu i ba gategori gwasanaeth y mae gwasanaeth yn perthyn.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynhyrchu codau ymarfer a chanllawiau sy'n amlinellu'r camau y gall cwmnïau eu cymryd i gydymffurfio â'r dyletswyddau ychwanegol hyn. Rydym yn gwahodd tystiolaeth gan ddiwydiant, grwpiau arbenigol a sefydliadau eraill i helpu llywio a siapio ein hymagwedd. Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar y codau a’r canllawiau drafft yn dilyn yn 2025,a fydd yn cymryd yr ymatebion i gais am dystiolaeth heddiw i ystyriaeth.

Os oes gennych gwestiynau am yr cais am dystiolaeth, cysylltwch â ni yn os-cfe@ofcom.org.uk.”

Ymateb i'r cais am dystiolaeth hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 160.1 KB).


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.