Ymgynghoriad: Adolygiad o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol - Hyrwyddo cystadleuaeth rhwydwaith band eang cyflym iawn a gwibgyswllt
- Dechrau: 01 Rhagfyr 2017
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 12 Ionawr 2018
Ar 31 Mawrth 2017 fe gyhoeddon ni ein cynigion ar gyfer rheoleiddio’r farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol (WLA) yn y dyfodol, a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd band eang a ffôn (gan gynnwys band eang cyflym iawn) i ddefnyddwyr preswyl a busnes. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym ym nodi cynigion pellach ar gyfer hyrwyddo cystadleuaeth ar gyfer gwasanaethau cyflym iawn a gwibgyswllt drwy atal BT rhag targedu ffioedd cyfanwerthu gostyngol lle y mae cystadleuwyr yn dechrau adeiladu rhwydweithiau newydd.
Lluniwyd ein cynigion i annog buddsoddi mewn rhwydweithiau gwibgyswllt, hyrwyddo cystadleuaeth a chyflawni buddion ar gyfer defnyddwyr.
Rydym wedi nodi 12 Ionawr 2018 fel y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.
Byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad pellach hwn cyn llunio ein casgliadau terfynol a chyhoeddi ein datganiad ar yr adolygiad yn gynnar yn ystod 2018, gyda mesurau newydd i ddod i rym ar 1 Ebrill 2018.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
BT (PDF File, 385.7 KB) | Sefydliad |
CityFibre (PDF File, 297.8 KB) | Sefydliad |
Gigaclear (PDF File, 456.1 KB) | Sefydliad |
Openreach (PDF File, 1.2 MB) | Sefydliad |
Telefonica UK Limited (PDF File, 183.6 KB) | Sefydliad |