Cais am dystiolaeth: Ymagwedd Ofcom at farchnadoedd symudol yn y dyfodol
- Dechrau: 09 Chwefror 2022
- Statws: Ar gau
- Diwedd: 08 Ebrill 2022
Mae'r papur trafod hwn yn nodi cynigion Ofcom ar ei hymagwedd at farchnadoedd symudol yn y dyfodol.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae newid enfawr wedi bod o ran defnyddio dyfeisiau symudol yn ein bywydau bob dydd, gartref ac yn y gwaith. Mae’r rhan fwyaf o alwadau nawr yn cael eu gwneud o ffonau symudol yn hytrach na llinellau tir ac mae oedolion yn y DU nawr yn treulio dwy awr y dydd ar-lein ar eu ffonau clyfar ar gyfartaledd. Mae disgwyl i’r duedd hon barhau, gyda mwy o alw am wasanaethau sy’n llyncu data fel ffrydio, galwadau fideo a thechnolegau mwy newydd fel realiti rhithwir a realiti estynedig, yn ogystal â cherbydau cysylltiedig. Bydd technolegau newydd hefyd yn creu defnyddiau newydd ar gyfer y diwydiant a’r sector cyhoeddus.
Mae’r farchnad symudol wedi gwasanaethu’r DU yn dda dros y deng mlynedd diwethaf, wedi’i sbarduno'n bennaf gan gystadleuaeth ymysg y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol. Ond yn gynyddol, mae rhwydweithiau symudol yn rhan o’r amrywiaeth o dechnolegau di-wifr gwahanol y mae pobl yn eu defnyddio i ddiwallu eu hanghenion ar wahanol adegau, boed hynny drwy ddefnyddio Wi-Fi gartref neu yn y gwaith, neu rwydweithiau symudol pan fyddwn ar grwydr. Yn y dyfodol, rydym yn disgwyl gweld mwy o rôl i gwmnïau eraill o ran darparu rhwydweithiau, gwerthu mynediad i’r rhyngrwyd symudol a darparu gwasanaethau ar-lein. O ystyried y newidiadau sy’n digwydd, mae’n amser da i ni bwyso a mesur, asesu pa mor dda y gallai’r farchnad weithio i bobl a busnesau, ac ystyried a allem addasu ein dull rheoleiddio a sut gallem wneud hynny, gan gydnabod bod ansicrwydd ynghylch y dyfodol.
Rydym yn cydnabod bod cryn ansicrwydd ynghylch y ffordd y bydd marchnadoedd symudol yn datblygu dros y pump i ddeng mlynedd nesaf, a byddem yn croesawu rhagor o dystiolaeth a safbwyntiau mewn ymateb i’r ddogfen drafod hon erbyn 8 Ebrill 2022.
Rydym yn bwriadu nodi ein casgliadau erbyn diwedd 2022.
Prif ddogfennau

Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Advisory Committee for Scotland (PDF File, 317.7 KB) | Sefydliad |
APWireless (PDF File, 147.1 KB) | Sefydliad |
Arqiva (PDF File, 205.9 KB) | Sefydliad |
BBC (PDF File, 190.9 KB) | Sefydliad |
BT (PDF File, 889.2 KB) | Sefydliad |