Datganiad: Adolygiad o gynnydd arfaethedig ym maint y cynnwys archif ar BBC iPlayer
- Dechrau: 19 Hydref 2022
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 14 Tachwedd 2022
Datganiad wedi'i gyhoeddi 30 Tachwedd 2022
Mae'r holl wasanaethau fideo-ar-alw ("VoD") mawr yn cynnig amrywiaeth o raglenni newydd a chatalogau o gynnwys hŷn. Ers 2019, mae'n bosib i gynulleidfaoedd gael mynediad i raglenni ar BBC iPlayer am 12 mis o'i ddarlledu fel mater o drefn. Mae rhaglenni hŷn hefyd ar gael, fel cyfresi blaenorol o deitlau sy'n dychwelyd. Ar hyn o bryd, mae'r BBC yn cyfyngu ar argaeledd rhaglenni hŷn ar BBC iPlayer gan gyfeirio at y meintiau a nodwyd ganddi yn ei chynnig ar gyfer BBC iPlayer yn 2019.
Mae'r BBC wedi cynnig i beidio â chymhwyso'r terfynau hyn mwyach ac i gynyddu maint y cynnwys hŷn ar BBC iPlayer drwy gyhoeddi - yn amodol ar ei chyfyngiadau ariannol a gweithredol - unrhyw deitl yn unol â'i chytundebau gyda chynhyrchwyr a deiliaid hawliau sylfaenol. Mae wedi ymgynghori ac wedi hynny ymgymryd â phrawf budd y cyhoedd (‘PIT’) ar ei chynlluniau. Mae Bwrdd y BBC wedi canfod bod y PIT wedi'i fodloni ac nad yw'r newid arfaethedig yn faterol.
Yn unol â gofynion Siarter a Chytundeb y BBC, rydym wedi cynnal asesiad o newid arfaethedig y BBC i BBC iPlayer, er mwyn penderfynu a yw'r newid arfaethedig yn 'faterol’ ai beidio’. Bu i ni ymgynghori ar ein barn dros dro nad yw'r newid arfaethedig yn faterol, sy'n golygu na fyddai'n ofynnol o dan y Cytundeb i gynnal asesiad cystadleuaeth o'r BBC ("BCA") neu asesiad byrrach sy'n ystyried elfennau o'r BCA ("Asesiad Byrrach”). Rydym bellach wedi cymryd adborth gan randdeiliaid i ystyriaeth wrth ddod i'n casgliad.
Yn y datganiad isod, rydym yn esbonio ein casgliad y gall y BBC fwrw ymlaen â'i chynnig. Rydym yn crynhoi barn rhanddeiliaid mewn ymateb i'n hymgynghoriad a sut rydym wedi ystyried y rhain wrth gyrraedd ein casgliad.
Prif ddogfennau
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Berriman, D (PDF File, 128.1 KB) | Ymateb |
Directors UK (PDF File, 192.2 KB) | Sefydliad |
Edmonds, D (PDF File, 131.2 KB) | Ymateb |
Gordon, P (PDF File, 112.3 KB) | Ymateb |
Hewitt, K A (PDF File, 127.6 KB) | Ymateb |