24 Chwefror 2023

Cwsmeriaid band eang i arbed miliynau yn dilyn adolygiad gan Ofcom

  • Gallai cwsmeriaid sydd y tu allan i gontract arbed dros £270m i gyd, yn ôl adolygiad gan Ofcom
  • Gallai hyn arbed tua £70 y flwyddyn i filiwn o gwsmeriaid agored i niwed
  • Mae Ofcom yn galw ar gwmnïau band eang i wneud mwy i ddiogelu cwsmeriaid agored i niwed

Mae disgwyl i gwsmeriaid band eang sydd y tu allan i gontract elwa o becyn o ymrwymiadau a newidiadau prisio gan eu darparwyr, yn dilyn adolygiad gan Ofcom.

Mae’r farchnad band eang yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau i gwsmeriaid, gyda chytundebau gwahanol ar gael sy’n gweddu i anghenion gwahanol. Ond mae Ofcom yn pryderu nad yw llawer o gwsmeriaid – yn enwedig rhai sy’n wynebu heriau – yn elwa o’r gostyngiadau sydd ar gael.

Felly rydyn ni wedi bod yn adolygu arferion prisio cwmnïau band eang ac wedi cymryd camau i ddiogelu cwsmeriaid rhag prisiau uchel y tu all i gontract.[1]

Ym mis Medi, fe wnaethon ni sicrhau ymrwymiadau gan BT, TalkTalk a Virgin Media i ostwng eu prisiau’n awtomatig i gwsmeriaid agored i niwed sydd y tu allan i gontract. Bellach rydyn ni wedi sicrhau ymrwymiadau gan EE, Plusnet a Sky i wneud yr un peth. Mae EE a Plusnet hefyd wedi ymuno â BT, Sky a TalkTalk i gynnig mynediad at y prisiau newydd i’w holl gwsmeriaid.

Ar y cyfan ers i ni ddechrau ein hadolygiad, rydyn ni’n amcangyfrif y gallai’r newidiadau prisio gan y darparwyr olygu bod cwsmeriaid y tu allan i gontract ar eu hennill o dros £270m y flwyddyn. Byddai hyn yn mynd i’r afael â dros hanner y gwahaniaeth o bron i £500m y mae cwsmeriaid sydd y tu allan i gontract yn ei dalu o gymharu â’r prisiau cyfartalog.

Yn dilyn ein hadolygiad, mae pob darparwr mawr wedi cynnig mesurau diogelu i’w cwsmeriaid agored i niwed. Rydyn ni’n amcangyfrif y gallai hyn, a newidiadau prisio eraill, olygu bod dros filiwn o gwsmeriaid agored i niwed sydd y tu allan i gontract ar eu hennill o £70 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Dywedodd Jane Rumble, Cyfarwyddwr Polisi Defnyddwyr Ofcom: “Rydyn ni eisoes wedi’i gwneud yn haws i bobl gael gostyngiad ac arbed arian. Ond rydyn ni’n pryderu bod rhai cwsmeriaid sy’n ei chael yn anoddach chwilio am fargeinion gwell yn colli cyfle.

“Felly rydyn ni’n falch bod y darparwyr wedi gwneud y peth iawn trwy dorri biliau cwsmeriaid agored i niwed. Rydyn ni nawr yn galw arnyn nhw i fynd ymhellach a chymryd camau ychwanegol i ganfod a chefnogi cwsmeriaid allai fod yn agored i niwed.”

Arferion prisio band eang

Mae’r mesurau newydd hyn i helpu cwsmeriaid agored i niwed yn rhan o adolygiad ehangach Ofcom o brisiau band eang lle rydyn ni wedi dadansoddi prisiau sy’n cael eu talu gan filiynau o gwsmeriaid.

Yn gyffredinol, mae cystadleuaeth gref yn golygu bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael gwerth am arian da - gyda chwmnïau yn cynnig gostyngiadau i ddenu cwsmeriaid newydd. Mae’r math yma o ostyngiadau yn nodwedd bwysig mewn unrhyw farchnad gystadleuol ac yn naturiol mae’n arwain at bobl yn talu prisiau gwahanol am yr un gwasanaeth - yn dibynnu pryd y gwnaethon nhw ddechrau eu cytundeb.

Pan fo gostyngiad cychwynnol cwsmer band eang yn dod i ben, mae hyn fel arfer yn arwain at gynnydd awtomatig yn y pris. Gall cwsmeriaid osgoi talu prisiau uwch drwy negodi cytundeb newydd neu drwy newid darparwyr, ond mae’r rheini sydd ddim yn gwneud hynny’n debygol o dalu mwy na sydd angen iddyn nhw. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘y gosb ffyddlondeb’.

Rydyn ni wedi darganfod bod tua 40% o gwsmeriaid band eang (8.7 miliwn) y tu allan i gontract. Ar gyfartaledd, mae’r cwsmeriaid hyn yn talu tua £4.70 y mis yn fwy na phris cyfartalog eu darparwr am eu gwasanaeth.[3] Ond mae gwahaniaethau sylweddol rhwng faint yn ychwanegol y mae cwsmeriaid y tu allan i gontract cwmnïau gwahanol yn ei dalu yn ogystal â chyfran y cwsmeriaid sydd y tu allan i gontract.

The proportion of customers who are out-of-contract varies from provider to provider, and so does the amount more than the provider average they pay each month.

Sut i osgoi talu mwy nag sydd ei angen

Mae rheolau Ofcom a gyflwynwyd ym mis Chwefror yn golygu bod yn rhaid i ddarparwyr roi gwybod i’w cwsmeriaid pan fo’u contract yn dod i ben, a dweud faint y gallen nhw ei arbed drwy ddechrau cytundeb newydd. Mae hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl i gymryd camau i osgoi cynnydd awtomatig mewn pris ar ddiwedd eu contract blaenorol.

Rydyn ni’n disgwyl i hyn leihau nifer y cwsmeriaid sydd y tu allan i gontract ac sy’n talu mwy na’r hyn sydd ei angen. Rydyn ni’n monitro effeithiau’r hysbysiadau hyn a byddwn ni’n cyhoeddi ein canfyddiadau’r flwyddyn nesaf.

Rhaid i ddarparwyr band eang wneud mwy i ddiogelu cwsmeriaid

Rydyn ni’n croesawu’r camau cyflym y mae’r darparwyr wedi’u cymryd i ddiogelu cwsmeriaid sy’n ei chael yn anodd talu oherwydd Covid-19. Ond, rydyn ni’n credu bod lle i ddarparwyr wneud mwy yn gyffredinol i ddiogelu eu cwsmeriaid agored i niwed rhag prisiau y tu allan i gontract uchel. Rydyn ni wedi gosod tri phrif gam rydyn ni eisiau i ddarparwyr eu cymryd:

  1. Gwell dealltwriaeth o gwsmeriaid agored i niwed. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni gyhoeddi canllaw ar drin cwsmeriaid agored i niwed yn deg, sy’n cynnwys camau y gall darparwyr eu cymryd mewn perthynas â hyn.
  2. Gwell cymorth i gwsmeriaid agored i niwed sydd wedi bod y tu allan i gontract am gyfnod hir. Dylai darparwyr ystyried cryfhau eu hymrwymiadau presennol i gwsmeriaid agored i niwed er mwyn sicrhau nad yw pobl sy’n ei chael yn anodd ymgysylltu yn talu prisiau uwch o ganlyniad.
  3. Cymorth ychwanegol i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau. Mae rhai cwsmeriaid wedi canfod eu hunain mewn trafferthion ariannol oherwydd y coronafeirws. Rydyn ni’n croesawu’r camau y mae darparwyr wedi’u cymryd i gefnogi’r cwsmeriaid hyd yma, ac rydyn ni wedi galw ar y diwydiant i fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â chwsmeriaid sy’n ei chael yn anodd talu. Mae hyn yn cynnwys cynnig tariff rhatach, er enghraifft, os ydynt mewn dyled neu ar dariff uchel y tu allan i gontract.

Byddwn ni’n parhau i fonitro arferion prisio yn y farchnad band eang ac yn cymryd camau i ddiogelu cwsmeriaid os oes angen.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Yn gyffredinol, pan fyddwn ni’n sôn am ‘gontract’ – cwsmeriaid y ‘tu allan i gontract’ neu fod ‘mewn contract’ – mae hyn yn cyfeirio at gyfnod ymrwymiad sefydlog cwsmeriaid. Hynny yw, y cyfnod na all cwsmeriaid ganslo eu gwasanaethau na newid i ddarparwr gwahanol heb dalu ffi canslo.

2. Y cwsmeriaid sy’n cael eu diffinio fel ‘agored i niwed’ gan eu darparwr yw’r rhieni sydd wedi rhoi gwybod i’r darparwr eu bod nhw’n agored i niwed.  Yn ychwanegol, mae Virgin Media yn diffinio’r rheini sydd dros 65 oed ac sydd wedi bod yn “anweithredol” am 3 blynedd fel agored i niwed.

3. Rydym yn defnyddio’r pris cyfartalog fel meincnod, yn hytrach na’r pris rhataf, oherwydd mae’n amcangyfrif yn fwy manwl y pris y gallai cwsmeriaid y tu allan i gontract ei dalu pe baem yn gweld niferoedd sylweddol o’r cwsmeriaid hyn yn symud i fargeinion rhatach.