3 Ebrill 2020

Datgelu newid mewn agweddau gwylwyr a gwrandawyr

Mae gwylwyr a gwrandawyr yn credu y dylai rhaglenni teledu a radio sydd ddim yn addas i blant, neu sy’n cynnwys pethau cas neu wahaniaethol, fod yn flaenoriaethau ar gyfer gwaith Ofcom o sicrhau safonau.

Mae astudiaeth newydd o ddisgwyliadau cynulleidfaoedd yn y byd digidol yn datgelu cefnogaeth eang ar gyfer rheolau darlledu, sy’n sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu gwarchod a bod rhyddid mynegiant yn cael ei gynnal. Mae’r ymchwil, a gafodd ei gomisiynu gan Ofcom, yn dangos cytundeb eang ymhlith cynulleidfaoedd bod barn cymdeithas ar dramgwydd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd pobl wrthym eu bod yn disgwyl i reoleiddio ganolbwyntio ar achosion lle mae cynnwys yn annog trosedd ac achosi niwed, hyd yn oed os yw’n cael ei ddangos ar sianelau llai sydd ddim yn y brif ffrwd, neu ar orsafoedd sydd wedi’u hanelu at gymunedau penodol. Yn yr un modd, mae llawer eisiau gweld blaenoriaeth yn cael ei roi i achosion sy’n cynnwys agweddau gwahaniaethol sydd wedi’u targedu at grwpiau penodol, yn enwedig os ydyn nhw'n peryglu niweidio pobl sy’n agored i niwed.

Mae patrwm y cwynion sy’n ymwneud â throsedd sydd wedi cael eu gwneud i Ofcom gan gynulleidfaoedd dros y pum mlynedd diwethaf hefyd yn adlewyrchu'r blaenoriaethau newidiol hyn. Er enghraifft, mae pryderon sy’n ymwneud â rhegi wedi disgyn 45% rhwng 2015 a 2019. I gymharu, mae cwynion sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil a rhyw wedi cynyddu 224% a 148%, yn y drefn honno, yn ystod yr un cyfnod.1

Diogelu gwylwyr a gwrandawyr rhag niwed

Cyfrifoldeb Ofcom yw gosod a gorfodi rheolau darlledu er mwyn diogelu gwylwyr a gwrandawyr rhag cynnwys niweidiol neu dramgwyddus sy’n amhosib ei gyfiawnhau ymhlith pethau eraill. Er mwyn ein helpu ni i sicrhau bod y rheolau hyn yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfredol, rydyn ni’n cynnal gwaith ymchwil manwl yn gyson er mwyn deall pryderon, anghenion a blaenoriaethau cynulleidfaoedd. Mae hyn yn ychwanegol at y degau o filoedd o gwynion gan gynulleidfaoedd rydyn ni’n eu cael bob blwyddyn.

Roedd y don ddiweddaraf o waith ymchwil i gynulleidfaoedd yn cynnwys gweithdai, grwpiau ffocws a chyfweliadau dwys gydag aelodau o’r cyhoedd o bob oed ac o wahanol gefndiroedd ar draws y DU gan ofyn am eu barn ar safonau cynnwys ar draws teledu, radio, gwasanaethau dal i fyny, tanysgrifio a rhannu fideos.

Beth yw nodweddion cynulleidfaoedd heddiw?

Yn gyffredinol, mae gwylwyr a gwrandawyr yn credu mai unigolion sy’n gyfrifol am ddewis y rhaglenni y maen nhw’n eu gwylio neu’n eu gwrando arnyn nhw. Maen nhw’n gwerthfawrogi amrywiaeth y cynnwys sydd ar gael heddiw, a’u rhyddid i gael mynediad ato ar unrhyw bryd yn unrhyw le.

Ond mae yna hefyd gefnogaeth eang ar gyfer rôl rheoleiddio, a rôl darlledwyr, wrth sicrhau bod cynnwys yn addas ac yn adlewyrchu disgwyliadau cynulleidfaoedd. Yn benodol, dywedodd gwylwyr a gwrandawyr y canlynol wrthym:

  • mae rheolau i ddiogelu plant rhag cynnwys amhriodol yn hanfodol. Ond, mae cyfranogwyr hefyd yn credu bod gan rieni a gofalwyr rôl bwysig wrth reoli’r hyn mae eu plant yn ei wylio;
  • mae rheolau ynglŷn ag annog trosedd, anhrefn, casineb a chamdriniaeth yn bwysig iawn. Mae pobl yn teimlo mai canlyniadau annog troseddau casineb yw'r rhai mwyaf difrifol, ac maen nhw eisiau gweld yr achosion hyn yn cael eu blaenoriaethu – hyd yn oed os yw'r cynnwys yn cael ei ddangos ar sianeli a gorsafoedd llai neu sydd ddim yn brif ffrwd ac ar orsafoedd sydd wedi'u hanelu at gymunedau penodol;
  • mae cynnwys gwahaniaethol yn erbyn grwpiau penodol yn achosi mwy o bryder na chynnwys tramgwyddus arall, fel noethni a rhegi, ac fe ddylai gael ei flaenoriaethu. Roedd llawer o gyfranogwyr wedi ystyried sut mae ymddygiad pobl tuag at hil a rhywioldeb wedi newid, gan nodi bod rhaglenni teledu yn y degawdau a fu yn cynnwys iaith, straeon ac ymddygiad sydd bellach yn cael eu gweld fel rhai gwahaniaethol.
  • maen nhw’n cydnabod bod cynnwys tramgwyddus yn oddrychol, ac yn cydnabod pwysigrwydd rhyddid mynegiant. Ond mae cynulleidfaoedd eisiau mynediad clir at wybodaeth ynglŷn â chynnwys mewn rhaglenni er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus. Mae rhoi rhybuddion cyn i raglenni ddechrau yn cael ei weld fel ffordd bwysig o liniaru unrhyw dramgwydd posibl drwy roi gwybod i wylwyr am beth i'w ddisgwyl;
  • mae camgymeriadau sy’n cael eu gwneud wrth ddarlledu’n fyw yn dderbyniol os ydyn nhw’n rhai go iawn nad oes modd eu hosgoi. Awgrymodd cyfranogwyr ei bod hi’n bosib nad oes angen i Ofcom gamu i mewn mewn achosion lle mae rhywun yn rhegi ar yr awyr yn ddamweiniol, er enghraifft, ac yn enwedig os oedd ymddiheuriad, neu os mai aelod o'r cyhoedd a regodd mewn ffordd a oedd y tu hwnt i reolaeth y darlledwr, ac os yw’r rhaglen yn annhebygol o gael ei gweld neu ei chlywed gan blant; a
  • maen nhw’n poeni am y diffyg rheoleiddio sydd ar lwyfannau rhannu fideos.2 Mae’r cyfranogwyr yn teimlo eu bod nhw’n fwy tebygol o weld cynnwys amhriodol neu sy’n achosi tramgwydd ar y safleoedd hyn, gyda rhestrau chwarae treigl, ffenestri naid, a chynnwys gan ddefnyddwyr sydd heb ei wirio yn achosi pryder i lawer.

Sylwadau a gafwyd yn y gweithdai a’r cyfweliadau gyda gwylwyr a gwrandawyr

Various comments captured during our workshops and interviewers with viewers. Examples include "People find things more sensitive now" and "I'd rather 6 million people heard an accidental swear word than 10,000 people hearing a sermon preaching hatred".

Sylwadau Ofcom ar y canfyddiadau

Gwnaeth Tony Close, Cyfarwyddwr Safonau Cynnwys Ofcom, sylwadau ar y canfyddiadau. Dywedodd:

"Mae pobl yn y DU yn teimlo’n angerddol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei weld ac yn ei glywed ar y teledu, ar y radio ac ar-alw. Diolch i’r cyfryngau cymdeithasol, mae dadleuon ynglŷn â rhaglenni yn fwy byw a chyflym nag erioed.

Mae gwybodaeth yn cael ei lledaenu’n gyflym ynglŷn â rhaglenni sy’n werth eu gwylio sy’n ymgysylltu â phobl ac yn eu hysbrydoli nhw; y rhai sy’n nodweddu diwylliant Prydeinig ac sy’n dod â’r genedl ynghyd; a’r rhai sy’n ein gwneud ni’n emosiynol. Ond hefyd, mae gwylwyr a gwrandawyr yn gwybod pan mae darlledwyr yn gwneud camgymeriadau neu’n darlledu rhywbeth sy’n is na’r safon.

Rhan hanfodol o’n swydd ni yn Ofcom yw gwrando ar farn pobl, a gweithredu arni pan fo angen. Y llynedd, fe wnaethom asesu tua 28,000 o gwynion ac adolygu gwerth bron i 7,000 awr o raglenni.

Ond dim ond rhan o'r darlun llawn yw’r ffigurau ynglŷn â chwynion. Mae’n bwysig ein bod ni, o dro i dro, yn cynnal ymchwil ychwanegol er mwyn deall pryderon, anghenion a blaenoriaethau gwylwyr a gwrandawyr yn iawn. Mae hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod ein rheolau darlledu yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfredol.

Rydyn ni’n gwybod bod chwaeth, agweddau a dymuniadau cynulleidfaoedd yn newid dros amser. Rydyn ni hefyd wedi gweld newidiadau sylweddol mewn normau cymdeithasol, sydd wedi newid y math o gynnwys maen nhw’n dewis ei wylio. Ar un adeg, byddai wedi bod yn amhosib meddwl am raglen chwilio am gariad sydd wedi’i seilio ar noethni yn cael ei dangos ar y teledu, hyd yn oed ar ôl y trothwy. Byddai drygioni gwarthus Nasty Nick yng nghyfres gyntaf Big Brother, a achosodd tramgwydd i lawer o bobl yn 2000, yn ymddangos yn llai rhyfeddol erbyn hyn ar ôl dau ddegawd arall o raglenni realiti. Ac mae stereoteipiau hiliol a oedd yn nodwedd mewn rhai rhaglenni comedi yn y 70au a’r 80au yn annerbyniol i gymdeithas a chynulleidfaoedd modern.

Roedd y rhai a gymrodd ran yn yr ymchwil yn cytuno’n gryf bod rheolau sy’n diogelu plant rhag cynnwys amhriodol yn parhau i fod yn hanfodol. Roedden nhw hefyd yn teimlo y dylai rheolau mwy llym gael eu cyflwyno ar gyfer cynnwys ar-lein. Roedd galwad am flaenoriaethu gweithredu clir yn erbyn cynnwys sy’n annog trais neu gasineb, neu sy’n gwahaniaethu yn erbyn grwpiau neu unigolion, dros gynnwys tramgwyddus arall fel noethni neu regi.

Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando ar y pryderon hynny, a sicrhau cydbwysedd rhwng hawl pobl i gael eu diogelu, a’r hawl iddyn nhw dderbyn amrywiaeth o wybodaeth a syniadau, ac wrth gwrs, hawl darlledwyr i gael rhyddid mynegiant. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gorau y gallwn ni wrth gynnal safonau ar y teledu, ar y radio ac ar wasanaethau ar-alw. Mae’r gwaith ymchwil yn cynnig cipolwg pwysig o feddyliau a chalonnau cynulleidfaoedd modern. Bydd hyn yn ein helpu ni i lywio sut rydyn ni’n gweithredu ac yn gorfodi rheolau darlledu ar eu rhan."

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Our complaints data from 2015 to 2019 shows a marked increase in the number of complaints pertaining to racial and gender discrimination, while the number of complaints relating to offensive language have steadily declined
  2. O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd Ofcom yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd ar gyfer rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos sydd wedi’u sefydlu yn y DU. Bydd y rheolau newydd hyn yn golygu y bydd rhaid i lwyfannau gael mesurau yn eu lle i ddiogelu pobl ifanc rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol, a sicrhau bod pob defnyddiwr yn cael ei ddiogelu rhag cynnwys anghyfreithiol a chasineb ar lafar. Rôl interim yw hon cyn y rheoleiddio niwed ar-lein newydd. Ar 12 Chwefror 2020, yn ei ymateb cychwynnol i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Niwed Ar-lein, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu dynodi Ofcom yn rheoleiddiwr newydd ar gyfer niwed ar-lein.