7 Ebrill 2020

Ofcom yn cyflwyno cynlluniau trwyddedu ar gyfer DAB ar raddfa fach

Bydd y rheini sy’n gwrando ar radio lleol yn gallu cael gafael ar orsafoedd digidol newydd yn dilyn y mesurau a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.

Mae Ofcom yn pennu sut byddwn yn trwyddedu ‘DAB ar raddfa fach’, sef technoleg flaengar a fydd yn darparu llwybr cost isel i orsafoedd cerddoriaeth arbenigol, cymunedol a masnachol lleol ddarlledu ar y tonnau digidol. [1]

Caiff DAB ar raddfa fach ei arwain gan beiriannydd Ofcom yn y DU, ac mae’n defnyddio meddalwedd a thechnoleg gyfrifiadurol sydd ar gael yn helaeth i drawsyrru gwasanaethau radio digidol a’u darlledu mewn ardal ddaearyddol cymharol fach. Mae’n caniatáu i orsafoedd ddefnyddio offer rhad i fynd ar yr awyr am lawer llai o arian nag oedd yn bosib cyn hyn.

Bydd DAB ar raddfa fach yn ehangu darpariaeth radio digidol lleol ac yn sicrhau bod gwrandawyr yn gallu cael gafael ar amrywiaeth helaeth o wasanaethau radio ledled y DU ar y llwyfan Darlledu Sain Digidol, sy’n gyfrifol am 40% o wrandawyr radio'r DU. [2]

Dywedodd Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Cynnwys Ofcom: “Mae DAB ar raddfa fach yn ei gwneud hi’n rhatach ac yn haws i orsafoedd lleol ddarlledu ar y tonnau awyr, a bydd hyn yn rhoi mwy o ddewis i wrandawyr ym mhob cwr o'r wlad.

Sut bydd Ofcom yn trwyddedu DAB ar raddfa fach

Byddwn yn hysbysebu trwyddedau ar gyfer DAB ar raddfa fach mewn sypiau, gan ddechrau gyda 25 o ardaloedd lleol ledled y DU, gan gynnwys pum ardal lle mae treialon eisoes yn cael eu cynnal. Bydd yr ail rownd ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr a gogledd-ddwyrain Cymru.

Bydd trwyddedau ar gyfer rhaglenni radio cymunedol, ar ffurf y Rhaglen Sain Digidol Cymunedol (‘C-DSP’) newydd, yn agor ar gyfer pob ardal leol ar yr un pryd ag y bydd hysbysebion trwyddedau amlblecs yn cael eu cyhoeddi.

Treialon ar raddfa fach yn llwyddiannus

Mae Ofcom wedi bod yn cynnal treialon DAB ar raddfa fach i brofi’r dechnoleg a’i gallu i ganiatáu i orsafoedd bach sy’n bodoli eisoes – yn ogystal â gwasanaethau newydd – ddarlledu mewn modd cost-effeithiol ar radio digidol. Mae’r gorsafoedd canlynol ymysg y rheini sydd wedi cymryd rhan yn y treial.

Skylab Radio

Mae Skylab Radio yn orsaf radio sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth ymlaciol, ‘lounge’, tempo araf, cerddoriaeth sy’n creu awyrgylch a cherddoriaeth ‘house’ ysgafn.

Mae perchennog yr orsaf,  Paul Teague, yn nodi bod DAB ar raddfa fach yn gyfrifol am gynnydd cyffredinol yn nifer ei gwrandawyr. Mae bod yn rhan o’r treial wedi helpu i gyflwyno rhaglenni arbenigol hwyr y nos ar Skylab hefyd.

Dywedodd Paul: “Gorsaf fach ydym ni ac mae ein cerddoriaeth yn arbenigol – mae’n eithaf pell o’r prif ffrwd. Roedd cael ein cynnwys ar amlblecs Portsmouth yn benderfyniad da yn ein barn ni. Fe wnaethom sylweddoli bod nifer y gwrandawyr a’r diddordeb yn Skylab wedi cynyddu.

Strawberry Radio

Mae Strawberry Radio wedi'i enwi ar ôl stiwdio recordio 10cc yn Stockport. Mae’n chwarae caneuon poblogaidd o'r pum degawd diwethaf, yn ogystal â cherddoriaeth newydd a chaneuon gan dalentau lleol.

Mae’r perchennog, Paul Taylor yn credu y bydd cael cartref parhaol ar DAB ar raddfa fach yn ei alluogi i symud yr orsaf yn ei blaen a pharhau i gynnig gwasanaeth radio i bobl Stockport.

Dywedodd Paul Taylor: “Mae DAB ar raddfa fach wedi galluogi Strawberry Radio i fynd â’r busnes i'r lefel nesaf, o fod ar-lein i fod yn orsaf radio ‘go iawn’. Gallwn gyrraedd cynulleidfa ehangach i hyrwyddo’r hyn rydyn ni’n ei gynnig oddi ar yr awyr, yn ogystal â’n hamserlen o sioeau theatr a digwyddiadau awyr agored, gan gynnwys Gŵyl Gerddoriaeth Strawberry.”

Cosoro Radio

Gorsaf radio Afrobeat ym Manceinion yw Corsoro Radio. Mae modd cael gafael arni drwy DAB ar raddfa fach ym Manceinion, Glasgow, Norwich a Portsmouth.

Yn ôl y sylfaenydd, Femi Bankole, mae nifer y gwrandawyr wedi cynyddu yn sgil bod ar DAB ar raddfa fach, ac mae wedi denu mwy o bobl at y genre Afrobeat.

Dywedodd Femi Bankole: “Mae DAB ar raddfa fach wedi rhoi llwyfan mwy cyfoethog y mae modd ei datblygu i Corsoro Radio, sy’n golygu bod modd cyrraedd mwy o bobl a chyflwyno'r genre i wrandawyr newydd, yn enwedig y genhedlaeth ifanc.

Solar Radio

Gorsaf soul arbenigol yw Solar Radio, sy’n darlledu cerddoriaeth soul, jazz a blŵs. Mae wedi bod yn rhan o’r treialon DAB ar raddfa fach ers y cychwyn cyntaf.

Mae’r Rheolwr-Gyfarwyddwr, Clive Richardson, yn nodi pa mor bwysig yw hi bod DAB ar raddfa fach ar gael yn rhwydd, sy’n golygu bod gwrandawyr Solar y gallu gwrando ar yr orsaf yn y car, yn y gwaith neu gartref.

Dywedodd Clive Richardson: “Mae ein gwrandawyr wedi mynegi ar gyfryngau cymdeithasol faint mae cael mynediad rhwydd a chludadwy at DAB ar raddfa fach yn cyfrannu at faint maen nhw’n mwynhau Solar Radio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn rhan o ddatblygiad parhaus y llwyfan hwn.”

Nodiadau

  1. Gan ystyried pandemig y coronafeirws (Covid-19) a’i effaith ar ddarlledwyr, nid ydym wedi pennu dyddiad terfynol ar gyfer cyhoeddi’r hysbysebion trwyddedau cyntaf, na’r ffurflenni cais a’r Cyfarwyddiadau ategol.
  2. Rajar Ch4, 2019