5 Awst 2020

Pobl yng Nghymru yn ffrydio ac yn gwylio llawer mwy o deledu yn ystod y cyfyngiadau symud

  • Roedd pobl yn treulio pum awr a hanner y dydd o flaen y teledu yng nghanol y cyfnod clo
  • Cynnydd yn yr amser a dreulir ar gynnwys sydd ddim yn cael ei ddarparu gan ddarlledwr, fel YouTube a Netflix
  • Bron yr holl boblogaeth ar-lein yn dilyn diweddariadau newyddion yn ystod wythnosau cynnar y pandemig

Yn ei astudiaeth flynyddol o arferion cyfryngau Cymru, mae Ofcom wedi canfod cynnydd mawr yn yr amser a dreulir o flaen y sgrin yn ystod y cyfyngiadau symud, gyda phobl yng Nghymru yn treulio pum awr a hanner y dydd yn gwylio’r teledu a gwasanaethau fideo ar-lein ar y set deledu.

Wrth i bobl ar draws Cymru ddilyn y cyngor iechyd swyddogol i aros gartref yn ystod mis Ebrill 2020, fe wnaethon nhw ddiddanu eu hunain a chael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy dreulio 5 awr a 30 munud y dydd ar gyfartaledd – neu bron i 40 awr yr wythnos yn gwylio teledu darlledu a chynnwys fideo ar-lein ac yn chwarae gemau [1] – cynnydd o bron i chwarter (24%) o’i gymharu â’r llynedd. [2]

In April 2020, people in Wales spent an average of 5 hours and 30 minutes viewing across all devices.

Y ffactor mwyaf sy’n gyfrifol am y cynnydd hwn oedd bod pobl yng Nghymru yn treulio llawer mwy o amser (+74%) yn gwylio gwasanaethau fideo ar alw fel Netflix, Disney+, Youtube a chynnwys arall sydd ddim yn cael ei ddarlledu – awr a 40 munud y dydd ar gyfartaledd ym mis Ebrill 2020. [3]

Serch hynny, gwylio teledu wedi'i ddarlledu oedd yn cyfrif o hyd am y gyfran fwyaf o’r amser y mae pobl yn ei dreulio o flaen y teledu yn ystod y cyfyngiadau symud – gan gyrraedd 3 awr a 38 munud ar gyfartaledd ym mis Ebrill 2020 (+9% o’i gymharu â 2019). [4]

Twf mewn gwasanaethau ffrydio y telir amdanynt

Mae adroddiad Ofcom: Cyfryngau’r Genedl 2020 [5] wedi canfod bod oddeutu 12 miliwn o oedolion yn y DU wedi tanysgrifio i wasanaeth ffrydio fideo newydd yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid oedd tua 3 miliwn o’r rhain erioed wedi tanysgrifio i wasanaeth o’r fath o’r blaen.[6]

Lansiodd Disney+ yn y DU ar ddiwrnod cyntaf y cyfyngiadau symud, a chafodd effaith yn syth. Denodd y gwasanaeth newydd 16% o’r oedolion sydd ar-lein erbyn dechrau mis Gorffennaf ar draws y DU, gan basio NOW TV (10%) i fod y gwasanaeth ffrydio tanysgrifiad mwyaf poblogaidd ar ôl Netflix (45% ac Amazon Prime Video (39%).

Ymysg plant 3-11 oed, roedd Disney+ yn cael ei ddefnyddio yn nhraean y cartrefi erbyn mis Mehefin – gan basio BBC iPlayer a welodd ei ddefnydd gan y plant hyn yn gostwng o 26% i 22% yn ystod y gwanwyn.

Darlledwyr traddodiadol yn denu’r gyfran uchaf erioed... yn cael ei yrru gan y galw am newyddion

Pan gafodd y cyfyngiadau symud eu cyhoeddi tua diwedd mis Mawrth, roedd ffigurau gwylio teledu darlledu cyfartalog wedi cyrraedd 3 awr a 58 munud y dydd yng Nghymru, yn cael ei yrru gan y galw am y newyddion diweddaraf am y pandemig. Dyma’r ail lefel gwylio uchaf yng ngwledydd y DU, y tu ôl i’r Alban ar 4 awr a 26 munud.

Bob wythnos ym mis Mawrth 2020, roedd rhaglenni newyddion yn cyrraedd 71.3% o boblogaeth Cymru ar gyfartaledd. Y BBC oedd y ffynhonnell fwyaf poblogaidd o ran newyddion am y pandemig yng Nghymru; fe wnaeth dros 7 o bob 10 oedolyn ar-lein ddefnyddio ei wasanaethau teledu, radio ac ar-lein o wythnosau cynnar y cyfyngiadau symud hyd at ganol mis Mehefin. O’i gymharu, roedd bron i 6 o bob 10 oedolyn ar-lein yng Nghymru (54%) wedi defnyddio gwasanaethau darlledwr ar wahân i rai'r BBC (ITV yn bennaf) yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfyngiadau symud, ac roedd hynny'n dal yn wir yn ystod y pedair wythnos hyd at ganol mis Mehefin (53%).

Yn sgil y galw am newyddion y gellid ymddiried ynddo am y pandemig, roedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus – y BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5 – wedi llwyddo i gynyddu eu cyfran fisol o wylio teledu darlledu i 59% ym mis Mawrth 2020 (i fyny o 7% ym mis Chwefror). Dywedodd S4C hefyd fod yna gynnydd yn ei gyfran gwylio teledu darlledu yn ystod oriau brig ymhlith siaradwyr Cymraeg o 6.2% i 8.2% yn ystod yr un cyfnod.

... ond mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol a chynhyrchu

Serch hynny, roedd y cynnydd yng nghynulleidfaoedd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ystod y cyfyngiadau symud yn fyrhoedlog, wrth i’r pandemig amharu ar drefniadau cynhyrchu operâu sebon, digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr, a rhaglenni adloniant. Erbyn mis Mehefin 2020 fe syrthio eu cyfran o’r amser gwylio teledu darlledu ar draws y DU i 55%, ei lefel isaf ers mis Awst 2019.

Mae’r rhagolygon i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol yn arbennig o anodd, wrth iddyn nhw reoli mesurau i arbed arian yng nghanol yr ansicrwydd ariannol. Gostyngodd eu cyllid cronnus o 3.5% yn 2019 i £2.2 biliwn, ac mae disgwyl i gyllid hysbysebu teledu ostwng 17-19% yn 2020.

The overwhelming majority of online adults signed up to Netflix (96%), Amazon Prime Video (91%) and Disney+ (84%) said they plan to keep their subscriptions in the months ahead.

Teyrngarwch ar ôl y cyfnod clo

Er bod y niferoedd sy’n gwylio teledu darlledu traddodiadol wedi gostwng ers dechrau’r cyfyngiadau symud, mae’r cynnydd o ran gwylio fideo ar-alw a chynnwys arall sydd ddim yn cael ei ddarlledu wedi parhau’n gyson yng Nghymru, ar 92% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Ac mae’n ymddangos y byddwn ni’n parhau i ddefnyddio gwasanaethu ffrydio ar ôl y cyfyngiadau symud ddod i ben. Mae’r mwyafrif helaeth o oedolion ar-lein ar draws y DU a danysgrifiodd i Netflix (96%), Amazon Prime Video (91%) a Disney+ (84%) yn dweud eu bod nhw’n bwriadu cadw eu tanysgrifiad dros y misoedd i ddo

Yn yr un modd, mae dros hanner oedolion y DU (55%) yn dweud y byddan nhw’n parhau i dreulio’r un faint o amser yn gwylio cynnwys wedi’i ffrydio yn y dyfodol ag y gwnaethon nhw yn ystod y cyfyngiadau symud.

Dywedodd Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru “Mae’r pandemig wedi dangos darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ei orau, yn darparu newyddion, materion cyfoes a chynnwys y gellir ymddiried ynddo yn Gymraeg a Saesneg.  Mae’r gwasanaethau teledu a radio sy’n cael eu darparu gan y tri darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru wedi chwarae rhan hanfodol mewn rhannu gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf yn ystod y pandemig.

Ond, mae darlledwyr yn y DU yn wynebu marchnad hysbysebu anodd, heriau cynhyrchu ac ansicrwydd ariannol. Mae angen iddyn nhw barhau i ddangos y gwerth hwnnw yn wyneb cystadleuaeth chwyrn gan wasanaethau ffrydio.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae’r ffigurau’n cynnwys gwylio'n fyw, gwylio'n ddiweddarach hyd at 28 diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol, cynnwys arall gan ddarlledwyr fel cyfresi cyfan ar wasanaethau BVOD sydd heb gael darllediad llinol, yn ogystal â ‘chynnwys anhysbys’ fel gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio, YouTube, chwarae gemau, gwylio DVDs/cyfresi cyfan/archifau, gwylio'n ddiweddarach y tu hwnt i 28 diwrnod, apiau ar setiau teledu clyfar, a chrwydro sianeli gydag EPG lle nad oes llun o’r cynnwys yn cael ei ddarlledu.
  2. Yn 2019, treuliodd pobl yng Nghymru 4 awr a 26 munud y dydd ar gyfartaledd yn gwylio teledu, fideo ar-lein a chynnwys arall ar y prif deledu yn eu cartref – awr a 5 munud yn llai nag ym mis Ebrill 2020.
  3. Treuliodd pobl yng Nghymru 58 munud yn gwylio cynnwys ‘anhysbys’ yn 2019 – 42 munud yn llai nag ym mis Ebrill 2020.
  4. Ffigurau gwylio’r teledu wedi’u cydgrynhoi i saith diwrnod ar ôl darlledu.
  5. Dyma drydydd adroddiad blynyddol Cyfryngau'r Genedl gan Ofcom, cyhoeddiad cyfeiriadol i’r diwydiant, gwneuthurwyr polisi, academyddion a defnyddwyr. Mae’n adolygu tueddiadau allweddol yn y sectorau teledu a fideo ar-lein, ynghyd â’r radio a sectorau sain eraill. Yn ogystal â’r adroddiad naratif, ceir adroddiad rhyngweithiol sy’n cynnwys ystod eang o ddata. Mae yno hefyd adroddiadau ar wahân ar gyfer y DU, Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Heddiw, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi “Children’s Media Lives-Life in Lockdown” i geisio deall sut mae’r pandemig wedi newid defnydd plant o’r cyfryngau a sut maen nhw’n ymddwyn ac yn ymgysylltu ar-lein.
  6. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd 54% o dai yng Nghymru eisoes yn tanysgrifio i wasanaethau ar-alw drwy danysgrifiad, ac roedd gan bron hanner y cartrefi fynediad at Netflix (47%)
  7. Treuliodd pobl yng Nghymru 86 munud yn gwylio cynnwys ‘anhysbys’ yn wythnos 26 y flwyddyn (yr wythnos yn dechrau 22 Mehefin 2020) o’i gymharu â 45 munud yr un wythnos yn 2019.